Y mae Plant yng Nghymru wrthi yng nghanol datblygu rhaglen hyfforddiant gyda chyflawni amrywiol raglenni ynglyn â magu plant ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Yr ydym ar hyn o bryd yn gallu cynnig:
Dyma gwrs hyfforddiant dwys am ddeuddydd, a fydd yn darparu’r medrau angenrheidiol i gyfranogwyr allu cyflawni’r rhaglen Byw Gyda’r Glasoed. Fe gaiff cyfranogwyr eu cyflwyno i hanfodion damcaniaeth gwaith grwp a’r logisteg o sefydlu grwp. Fe gânt brofiad uniongyrchol o lawer o’r ymarferion a ddefnyddir yn ystod cyflawni’r rhaglen. Yn ychwanegol, fe wna’r sawl sy’n mynychu dderbyn llawlyfr cynhwysfawr sy’n rhoi manylion am gynnwys yr holl sesiynau, ynghyd ag amryw o awgrymiadau buddiol ynglyn â chyflawni’r rhaglen.
Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, y mae holl asiantaethau cymdeithasol a gofal y Deyrnas Gyfunol wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o angen enfawr yn ein cymdeithas. Y mae’n dechrau gyda diffyg cyfraniad tad mewn gofal cyn ac ar ôl geni; tadau absennol; lefelau isel o hunan-barch a chyrhaeddiad academaidd isel bechgyn; ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrodol y glasoed; a diffyg delfrydau ymddwyn gwrywaidd da. Y mae’r rhain yn faterion cymhleth ac anodd; y mae pob teulu yn wahanol ac y mae ar bob achos angen gofal a sylw. Fodd bynnag, fe wyddom fod angen rhoi sylw i’r materion hyn fel mater o frys, a bod angen canfod atebion a ffyrdd o weithio gyda thadau.
Yr ydym yn cynnig y cwrs hwn fel dechreuad yn y broses honno, ac yr ydym wedi’i ddyfeisio fel tadau a gofalwyr profiadol ym meysydd gofal cymdeithasol. Fe wna’r cwrs annog dadl ac fe fydd yn canolbwyntio sylw ar y ffyrdd o ennyn diddordeb tadau, sydd o fudd uniongyrchol i’w plant, i’w cymheiriaid, ac i gymdeithas drwyddi draw.
Am wybodaeth am gyrsiau sydd ar y gweill, cysylltwch â:
Ffôn: 029 2034 2434E-bost: info@childreninwales.org.uk