Mae’n holl gyrsiau yn rhai amlddisgyblaethol a’u nod yw hyrwyddo ymagwedd integredig ar gyfer pob un o’r rheiny sy’n gweithio mewn y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol. Rydym yn defnyddio adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol, i gyflwyno digwyddiadau hyfforddi o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru.
Lawrlwythwch ein Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Hydref 2010 - Mawrth 2011
Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant ‘mewnol.’ Gall hyn cynnwys y pynciau dilynol:
Sut i gefnogi plant anabl mewn gosodiadau prif ffrwdBydd y gweithdy hwn yn cynnwys edrych ar sut y medrir gwneud addasiadau rhesymol o fewn gosodiadau gan roi syniadau o sut y medrir cefnogi’r grwp yma o blant i gael mynediad i’ch gwasanaethau a’u cynnwys yn y gweithgareddau a gynigiwch. Yn ogystal â sicrhau fod y lleoliad yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, bydd y gweithdy hefyd yn edrych ar wneud eich holl weithgareddau’n fwy cynhwysol a hefyd gynorthwyo staff i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl. Bydd yn cynnwys cyflwyniad arDdeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2005 a deddfwriaeth arall berthnasol. Gall Plant yng Nghymru hefyd gynnig cwrs cyflwyniadol cyffredinol ar arfer da ar gyfer gweithio gyda phlant anabl wedi ei deilwra ar gyfer anghenion eich gosodiad.
Hyfforddiant cyfranogiad penodol i’r sectorGall Plant yng Nghymru ddarparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfranogiad a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer sefydliadau sydd eisiau sicrhau y caiff defnyddwyr gwasanaeth ifanc eucynnwys wrth gynllunio a dylunio eu gwasanaethau. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y rhwystrau a’r cyfleoedd penodol dros alluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn eich gosodiad. Bydd sesiynau yn seiliedig ar anghenion pob grwp ac yn seiliedig ar bolisi cyfranogiad yn eu maes gwaith.
Dulliau cyfranogol o weithio gyda phobl ifancGall Plant yng Nghymru ddarparu sesiynau hyfforddiant ar ddulliau cyfranogol gyda phobl ifanc. Gall sesiynau un ai fod yn gyffredinol neu’n hyfforddiant penodol a ddatblygwyd ynseiliedig ar anghenion neilltuol y grwp.
Cofnodi a Chadw CofnodionBydd y gweithdy hwn yn edrych ar y fframwaith cyfreithiol ar gyfer cofnodi gwybodaeth ac yn ystyried pwysigrwydd cade cofnodion effeithiol mewn unrhyw sefydliad sydd gan eich sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth, edrych ar faterion o arfer da a chysondeb ar draws y grwp staff.
Sut i ymrwymo tadauMae gweithio gyda thadau yn awr yn dod yn gynyddol brif ffrwd - ar lefel polisi ac ar lefel gwasanaeth. Bydd y gweithdy yn ystyried pwysigrwydd ymrwymo tadau i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer plant a sut y gall hyn gael goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer yr holl deulu. Bydd y gweithdy’n edrych ar y rhwystrau lluosog sy’n atal dynion rhag cymryd rhan mewn gwasanaethau. Bydd cyfranogwyr yn sicrhau mwy o ddealltwriaeth o sut a pham bod angen iddynt gynnwys dynion yn llawnach wrth ddylunio gwasanaeth sy’n ymrwymo gyda theuluoedd.
Amddiffyn PlantCynllunnir gweithdai i drafod gofynion penodol diogelu plant a phobl ifanc yn eich gosodiad. Bydd y gweithdy yn codi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gall plant gael eu cam-drin a’r arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd yn ystyried y gofynion cyfreithiol a moesol i gadw plant yn ddiogel, gan gyfeirio at eich gosodiad a rolau gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cyfrannu at hyn.
Monitro Polisi a DeddfwriaethFe all Plant yng Nghymru ddarparu hyfforddiant ar monitro polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe ellir addasu’r hyfforddiant ar gyfer y meysydd polisi neilltuol sy’n effeithio ar sefydliad neu fudiad. Fe fydd yn cwmpasu datblygiad polisi a’r prosesau deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig, ac fe fydd yn edrych ar ba feysydd sydd wedi’u datganoli a pha rai sy’n annatganoledig. Fe ellir hefyd darparu trosolwg ar bolisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn yr Undeb Ewropeaidd.
Am fwy o wybodaeth am ein hyfforddiant neu i drafod eich anghenion, a fyddech cystal â chysylltu â: Claire Sharp, Swyddog Hyfforddi, Ffôn: 029 20342434, E-bost: claire.sharp@childreninwales.org.uk
Ymgynghoriaeth
Mae Plant yng Nghymru yn ymestyn ei wasanaethau ymgynghori a gyda phrofiad a sgiliau ei staff a’i banel Gymdeithion, mae’n awr yn cynnig (i sefydliadau sydd â diddordeb) amrediad eang o arbenigedd gweithredol, rheolaeth strategol ac ymchwil mewn gwasanaethau a materion yn cyfeirio at blant a phobl ifanc. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag info@childreninwales.org.uk
Mae disgownt sylweddol ar gyfer gwasanaethau hyfforddiant ac ymgynghoriad ar gael i aelodau Plant yng Nghymru.