Nod y cwrs 1 neu 2 ddiwrnod hwn yw datblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o’r agenda bolisi gyfredol. Tra bod rhan gynnar y cwrs yn canolbwyntio ar ddeall y polisi cyfredol a’r fframwaith cyfreithiol yn gysylltiedig â chydraddoldeb, y mae rhan ddiweddaraf y cwrs yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc fel grwp y gwahaniaethir yn ei erbyn yn eu rhinwedd eu hunain. Fe fydd y cwrs, a ategir gan ddeunyddiau cwrs helaeth a rhestr o adnoddau, yn cymorth anghenion hyfforddiant unigol ymarferwyr unigol ac fe fydd hefyd yn cymorth newid trefniadaethol i ymdrin â’r materion hyn yn fwy effeithiol. Fe wna’r cwrs ddefnyddio rhychwant o fframweithiau deddfwriaethol, gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â gwahaniaethu, y Ddeddf Iawnderau Dynol, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Erbyn diwedd y cwrs:
Am fwy o wybodaeth am gynnwys y cwrs, a fyddech cystal â chysylltu â Cyfarwyddwr Polisi: Ffôn: 029 2034 2434.
Y mae manylion am gyrsiau sydd ar y gweill ar gael yn yr Adran Digwyddiadau.