Mae swyddfa Plant yng Nghymru yn 25 Plas Windsor yng nghanol Caerdydd, yn agos at orsaf drenau Heol y Frenhines a maes parcio aml-lawr Dumfries Place. Mae’r holl adeilad yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Mae gan yr adeilad bolisi dim ysmygu. Yn ogystal â’r rhestr islaw o’r offer safonol sydd ar gael yn yr ystafelloedd ac sy’n gynwysedig ym mhris llogi’r ystafell, medrir gwneud trefniadau i logi ein cyfleusterau cynadleddau fideo, taflunydd Powerpoint ac offer cyfieithu ar y pryd.
Ar y llawr daear, gall yr ystafell hon ddarparu ar gyfer hyd at 25 o bobl ar arddull theatr, 20 o bobl ar arddull ystafell fwrdd a medrir trefnu gosod yr ystafell mewn ffyrdd arall. Mae siart troi, sgrin, OHP, teledu a fideo yn yr ystafell.
Y ffioedd llogi yw:
Hanner Diwrnod (9yb – 1yh; 1yb – 5yh) £70 (Y sawl nad ydynt yn aelodau - £100)
Diwrnod Llawn (9yb - 5yh) £100 (Y sawl nad ydynt yn aelodau - £150)
Y mae gan yr ystafell fynediad a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl.
Fe fydd yna dâl am De, Coffi a Bisgedi o £2.00 y person am ddigwyddiad hanner diwrnod a £3.50 y person am ddigwyddiad diwrnod llawn.
A fyddech cystal â chwblhau’r ffurflen a ganlyn i archebu ystafell gyfarfod neu ffoniwch 029 2034 2434 ar gyfer unrhyw ymholiadau yn gysylltiedig â hyn.
Ffurflen Archebu Ystafell Gynhadledd/Ystafell Gyfarfod