Y mae Plant yng Nghymru yn cydlynu amryw o fforymau a rhwydweithiau ledled Cymru. Y mae’r fforymau a’r rhwydweithiau hyn yn rhoi cyfle i aelodau ddod ynghyd i gyfnewid gwybodaeth, rhannu ymarfer da, a rhwydweithio gydag eraill yn eu maes. Y mae aelodau fforymau hefyd yn gallu codi materion sy’n peri pryder yn gysylltiedig ag ystod o feysydd polisi y gall Plant yng Nghymru eu sianelu drwodd i lunwyr polisi.
Y mae’n Fforymau cyfredol yn cynnwys:
Cyfnewid Gofalu Am Iechyd Y mae hwn yn grŵp amlasiantaethol sydd â’r nod o gynorthwyo i arwain polisi ledled Cymru i hybu iechyd plant sy’n derbyn gofal. Fe fydd Plant yng Nghymru yn parhau i gynnal y grŵp hwn er bod y prosiect wedi dirwyn i ben.
Fforwm ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl Dyma grwp amlasiantaethol sy’n cyfarfod i rannu gwybodaeth ac ymarfer da, i gefnogi, i ysgogi datblygiad ac i lobïo dros faterion yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc anabl yng Nghymru.
Fforwm Magu PlantNod y fforwm hwn yw bod yn llais cenedlaethol dros rieni yng Nghymru, gan eu cefnogi hwynt yn eu rôl yn magu plant, rhannu gwybodaeth, rhoi ymchwil ar gael a chysylltu polisi ar bob lefel.
Fforwm Tadolaeth CymruY mae’r fforwm hwn yn agored i bawb sydd naill ai’n gweithio ar hyn o bryd gyda thadau neu sy’n ystyried gweithio gyda thadau.
Grŵp Cymorth Sefydliadau Gwirfoddol Gogledd Cymru Y mae’r grŵp hwn yn cyfarfod yn chwarterol ac y mae’n cynnwys unigolion a gyflogir gan sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Fe ddaw’r grŵp ynghyd er mwyn nodi, rhannu a hyrwyddo arferion da a darparu cydgefnogaeth.
Grwp Cynghori ar Flynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Y mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion plant o dan wyth oed a’u teuluoedd, ac y mae’n gweithio gydag ystod eang o sefydliadau o bob sector. Nod y grŵp yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o anghenion a hawliau holl blant ieuainc a’u teuluoedd ac i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus a dod â newid.
Grwp Darparwyr Eiriolaeth dros Blant a Phobl Ifanc Cymru GyfanY mae’r grwp hwn yn hyrwyddo gwaith mewn partneriaeth a strategaethau datblygiadol rhwng sefydliadau, y mae’n hwyluso datrys problemau ac yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gyffredinol.
Canolfannau Plant Integredig Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig – y mae’r rhwydwaith hwn yn cael ei hwyluso gan Plant yng Nghymru i ddarparu man cyswllt ar gyfer Canolfannau Plant Integredig yng Nghymru. Y mae’n gweithio i gynhyrchu amcanion cyffredin ar gyfer Cymru gyfan a datblygu fframwaith ar gyfer cadw golwg a gwerthuso i sicrhau safonau o ansawdd.
Rhwydwaith Cychwyn Cadarn Y mae Plant yng Nghymru yn cefnogi Rhwydwaith Cychwyn Cadarn yng Nghymru ac y maent wedi hwyluso cyfarfodydd rheolaidd o gydlynwyr Cychwyn Cadarn.
Rhwydwaith Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant Y mae’r grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant yn cynnal cyfarfodydd chwarterol yng Ngogledd a De Cymru ar gyfer y sawl sy’n gysylltiedig ag eiriolaeth, ymgynghori a chyfranogi gyda phlant.
Rhwydwaith Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPiC) Y mae’r rhwydwaith hwn wedi’i ddatblygu gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Y mae’n galluogi cynrychiolwyr o’r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol i gael y cyfle i wella gwybodaeth, cynnig cydgefnogaeth a dealltwriaeth a thrafod materion er mwyn gwella’u gwaith o fewn Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc.
Rhwydwaith Dynion mewn Gofal Plant (Cymru) Y mae’r rhwydwaith yn bartneriaeth rhwng Plant yng Nghymru, yr Adran Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe a Choleg y Drindod Caerfyrddin i annog mwy o ddynion i’r gweithlu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru (PWNW) yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gyda threfnu gweithgareddau cyfranogol a gwneud cyfranogi ar raddfa eang yn wirionedd.
Rhwydwaith Gofalwyr IfancY mae’r rhwydwaith hwn yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, ac y mae’n agored i bob gweithiwr gofalwyr ieuainc.
Rhwydwaith Pobl Ifanc AnablNod y prosiect yw rhoi cyfleoedd i bobl anabl ifanc ledled Cymru i:gyfarfod a chael hwyl, deall eu hawliau, codi materion sy’n peri pryder iddynt yn eu bywydau bob dydd , cael llais gyda phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwynt a’u cyfoedion, datblygu’u gallu i ddod yn asiantau effeithiol yn y broses o lunio penderfyniadau
Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc CymruAnnog a datblygu holl agweddau ymchwil er budd plant a phobl ifanc yng Nghymru