Y mae Plant yng Nghymru yn cydlynu amryw o fforymau a rhwydweithiau ledled Cymru. Y mae’r fforymau a’r rhwydweithiau hyn yn rhoi cyfle i aelodau ddod ynghyd i gyfnewid gwybodaeth, rhannu ymarfer da, a rhwydweithio gydag eraill yn eu maes. Y mae aelodau fforymau hefyd yn gallu codi materion sy’n peri pryder yn gysylltiedig ag ystod o feysydd polisi y gall Plant yng Nghymru eu sianelu drwodd i lunwyr polisi.
Y mae’n Fforymau cyfredol yn cynnwys:
Mae’r Grŵp Cyfnewid Ymarfer Eiriolaeth yn rhoi cyfle i ymarferwyr ym maes eiriolaeth i rannu ymarfer, profiad a gwybodaeth ar eiriolaeth a meysydd cysylltiedig. Mae hefyd yn cyfrannu at wella datblygiad ymarfer eiriolaeth ar draws Cymru.
Mae Rhwydwaith Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru yn cyfrannu at ddatblygu eiriolaeth yng Nghymru ac yn ei gefnogi. Mae’n anelu i hyrwyddo gwaith partneriaeth a strategaethau datblygu rhwng sefydliadau. Mae hefyd yn hwyluso datrys problemau a gwrthdaro posibl mewn diddordeb.
Rhwydwaith Cyfnewid Gwybodaeth (CHAPPIE) Nod rhwydwaith CHAPPIE yw hyrwyddo atal damweiniau ac anafiadau anfwriadol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Ffurfiwyd y rhwydwaith newydd yma ym mis Hydref 2008 i gefnogi ymarferwyr sydd â rôl i’w chwarae mewn gostwng anafiadau.
Datblygwyd Rhwydwaith Ymgyfraniad Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Mae’n galluogi cynrychiolwyr o Gynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol i wella gwybodaeth, cynnig cefnogaeth a dealltwriaeth i’w gilydd i hybu eu gwaith o fewn Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc.
Cynhaliodd y Grwpiau Cyfnewid Ymarfer Plant yng Ngogledd a De Cymru gyfarfodydd rheolaidd ers mis Medi 2007. Mae’r cyfarfodydd yn galluogi cyfranogwyr i gyfnewid arbenigedd a gwybodaeth. Mae’r grwpiau yn manteisio o e-gylchlythyr i ddosbarthu gwybodaeth rhwng digwyddiadau chwarterol.
Mae’r Grŵp Ymgynghori Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion plant dan wyth oed a’u teuluoedd, ac mae’n gweithio gydag ystod eang o sefydliadau o bob sector. Mae’r grwˆ p yn anelu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o anghenion a hawl pob plentyn ifanc a’u teuluoedd ac i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus a sicrhau newid.
Mae Fforwm Tadolaeth Cymru yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Mae’n galluogi aelodau i rannu arfer da, ymateb i ymgynghoriadau a hyrwyddo pwysigrwydd tadau ym mywydau plant. Mae Grŵp Polisi Tadolaeth Cymru yn rhwydwaith aml-asiantaeth sy’n cydnabod rôl bwysig tadau ym magwraeth eu plant. Mae’r Grŵp , sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Fathers Direct, yn canolbwyntio ar faterion polisi penodol i osod yr agenda ar gyfer gwaith yng Nghymru.
Mae’r Fforwm Magu Plant yn rhwydwaith aml-asiantaeth o sefydliadau rhianta. Mae’r Fforwm yn hyrwyddo rhannu arfer da, lledaenu gwybodaeth berthnasol, hyfforddiant a safonau ansawdd, ac yn cyfathrebu barn rhieni, gofalwyr a phlant i wneuthurwyr polisi yng Nghymru. Mae Grwˆ p Llywio Fforwm Magu Plant yn cwrdd bob chwarter i gynllunio’r rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau.
Mae’r Rhwydwaith Dechrau’n Deg yn cwrdd bob chwarter, gan ddod ynghyd â chydlynwyr Dechrau’n Deg o’r 22 Awdurdod Lleol.
Mae’r Fforwm ar Faterion Plant Anabl yn grŵp aml-siantaeth sy’n rhannu gwybodaeth ac arfer da, ac yn lobio ar faterion yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc anabl. Mae’r Grŵp Polisi Plant Anabl yn dod ynghyd â’r rhai sydd â brîff polisi ar anabledd i gydweithio i dynnu sylw at faterion a phryderon am wasanaethau ar gyfer plant anabl. Mae gan y grŵp gysylltiad agos gyda’r Fforwm ar Faterion ar gyfer Plant Anabl a’r Rhwydwaith Pobl Ifanc Anabl i adlewyrchu barn aelodau’r fforwm ac i sicrhau y caiff lleisiau pobl ifanc eu clywed.
Caiff y Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig ei hwyluso gan Plant yng Nghymru i roi pwynt cyswllt ar gyfer Canolfannau Plant Integredig yng Nghymru. Mae’n gweithio i gynhyrchu nodau cyffredin ar gyfer Cymru gyfan a datblygu fframwaith ar gyfer monitro a gwerthuso i sicrhau safonau ansawdd.
Mae’r Gyfnewidfa Iechyd Plant sy’n derbyn Gofal yn grŵp aml-asiantaeth sy’n anelu i helpu i lywio polisi ar draws Cymru i hyrwyddo lles plant sy’n derbyn gofal. Mae hefyd yn gweithredu fel fforwm ar gyfer rhannu ymarfer a gwybodaeth.
Mae’r Rhwydwaith Cydlynwyr Rhianta yn rhwydwaith o unigolion sydd â rôl gydlynu o fewn eu hawdurdod lleol. Sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Medi 2007 ac mae’n galluogi cydlynwyr rhianta i gwrdd (bob dau fis) i rannu materion, datrysiadau ac arfer da.
Mae’r Rhwydwaith Gweithwyr Gofalwyr Ifanc yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn ac mae’n agored i bawb sy’n gweithio gyda gofalwyr ifanc yng Nghymru. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal pedwar cyfarfod undydd i rannu materion, pryderon a datblygu arfer da. Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi rhwydwaith gofalwyr ifanc sy’n cwrdd i ddynodi materion i’w cyflwyno’n flynyddol i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Fforwm Cyfryngau Plant yng Nghymru Nod y fforwm hwn yw hyrwyddo cyfranogiad a phortread cadarnhaol o blant a phobl ifanc yn y cyfryngau, a dylanwadu ar sefydliadau eraill yng Nghymru i hyrwyddo delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc yn eu gwaith gyda’r cyfryngau.
Grŵp Gwobr ‘Ysgolion sy’n Parchu Hawliau’ Fe sefydlodd Plant yng Nghymru Rwydwaith i gynorthwyo i weithio gydag UNICEF i gymorth Gwobr ‘Ysgolion sy’n Parchu Hawliau’ sy’n datblygu mewn ysgolion yng Nghymru.