Croeso i adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o eiddo gwefan Plant yng Nghymru. Un o amcanion Plant yng Nghymru yw sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn dod yn realiti yng Nghymru, ac y mae adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig o’r wefan hon yn darparu manylion pob Erthygl o’r Confensiwn.
Darllenwch Erthyglau’r Confensiwn:-
Ynglyn â’r Confensiwn
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru
Cadw Golwg ar y Confensiwn
Yn ychwanegol at yr adroddiadau a wnaed gan lywodraethau, y mae cyrff anllywodraethol (NGOs) hefyd yn llunio adroddiadau i ddangos sut y maent yn credu y mae’r Confensiwn wedi’i weithredu yn eu gwlad. Fe wnaeth Achub y Plant a Plant yng Nghymru weithio gyda’i gilydd i gasglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad gan y corff anllywodraethol ynglyn â gweithredu’r Confensiwn yng Nghymru, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn 2002. Fe gynrychiolir Plant yng Nghymru ar Grwp Monitro UNCRC sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yna gydlynu effeithiol ar y modd y cedwir golwg ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Y mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar dudalen Cadw Golwg ar y Confensiwn yng Nghymru ac dudalen Cynrychiolaeth Hawliau Plant y wefan hon.
Cyfieithiad Cymraeg o'r Confensiwn
Sut i Ganfod Mwy o Wybodaeth
Y mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu cyfres o gyfarwyddiadau sy’n darparu gwybodaeth ychwanegol am yr UNCRC a’r broses o gadw golwg. Fe ellir llwytho’r rhain oddi ar ein tudalen Cyhoeddiadau i’w Llwytho.
Y mae dolenni cyswllt i ragor o wefannau yn gysylltiedig â Hawliau Plant ar gael yn ein hadran Dolenni Cyswllt.