Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu un o’r digwyddiadau a hysbysebir ar gyfer eich sefydliad neu gomisiynu diwrnod o hyfforddiant teilwredig, medrwn drefnu’r hyfforddiant i’ch gofynion penodol, llunio rhaglen ar gyfer y dydd, sicrhau hyfforddydd arbenigol a’r holl ddeunyddiau perthnasol. Os ydych chi’n darparu’r lleoliad, gall hyn fod yn ffordd effeithiol o ran cost o sicrhau y caiff anghenion hyfforddiant eich holl grwˆ p staff eu diwallu ar adeg a lle sy’n addas i’ch sefydliad. Yn ogystal â’r cyrsiau a hysbysebir yn y rhaglen hyfforddiant, gall staff Plant yng Nghymru gynnig amrywiaeth o weithdai hanner diwrnod codi ymwybyddiaeth ar y pynciau dilynol:
Sut i gefnogi plant anabl mewn gosodiadau prif ffrwd
Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys edrych ar sut y medrir gwneud addasiadau rhesymol o fewn gosodiadau gan roi syniadau o sut y medrir cefnogi’r grwˆ p yma o blant i gael mynediad i’ch gwasanaethau a’u cynnwys yn y gweithgareddau a gynigiwch. Yn ogystal â sicrhau fod y lleoliad yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, bydd y gweithdy hefyd yn edrych ar wneud eich holl weithgareddau’n fwy cynhwysol a hefyd gynorthwyo staff i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl. Bydd yn cynnwys cyflwyniad ar Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2005 a deddfwriaeth arall berthnasol.
Gall Plant yng Nghymru hefyd gynnig cwrs cyflwyniadol cyffredinol ar arfer da ar gyfer gweithio gyda phlant anabl wedi ei deilwra ar gyfer anghenion eich gosodiad.
Hyfforddiant cyfranogiad penodol i’r sector
Gall Plant yng Nghymru ddarparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfranogiad a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer sefydliadau sydd eisiau sicrhau y caiff defnyddwyr gwasanaeth ifanc eu cynnwys wrth gynllunio a dylunio eu gwasanaethau. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y rhwystrau a’r cyfleoedd penodol dros alluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn eich gosodiad. Bydd sesiynau yn seiliedig ar anghenion pob grwˆ p ac yn seiliedig ar bolisi cyfranogiad yn eu maes gwaith.
Dulliau cyfranogol o weithio gyda phobl ifanc
Gall Plant yng Nghymru ddarparu sesiynau hyfforddiant ar ddulliau cyfranogol gyda phobl ifanc. Gall sesiynau un ai fod yn gyffredinol neu’n hyfforddiant penodol a ddatblygwyd yn seiliedig ar anghenion neilltuol y grŵp
Cofnodi a Chadw Cofnodion
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y fframwaith cyfreithiol ar gyfer cofnodi gwybodaeth ac yn ystyried pwysigrwydd cadw cofnodion effeithiol mewn unrhyw sefydliad sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Bydd yn ymchwilio pa systemau sydd gan eich sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth, edrych ar faterion o arfer da a chysondeb ar draws y grŵp staff.
Sut i ymrwymo tadau
Mae gweithio gyda thadau yn awr yn dod yn gynyddol brif ffrwd - ar lefel polisi ac ar lefel gwasanaeth. Bydd y gweithdy yn ystyried pwysigrwydd ymrwymo tadau i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer plant a sut y gall hyn gael goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer yr holl deulu. Bydd y gweithdy’n edrych ar y rhwystrau lluosog sy’n atal dynion rhag cymryd rhan mewn gwasanaethau. Bydd cyfranogwyr yn sicrhau mwy o ddealltwriaeth o sut a pham bod angen iddynt gynnwys dynion yn llawnach wrth ddylunio gwasanaeth sy’n ymrwymo gyda theuluoedd.
Amddiffyn Plant
Cynllunnir gweithdai i drafod gofynion penodol diogelu plant a phobl ifanc yn eich gosodiad. Bydd y gweithdy yn codi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gall plant gael eu cam-drin a’r arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd yn ystyried y gofynion cyfreithiol a moesol i gadw plant yn ddiogel, gan gyfeirio at eich gosodiad a rolau gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cyfrannu at hyn.
Monitro Polisi a Deddfwriaeth
Fe all Plant yng Nghymru ddarparu hyfforddiant ar monitro polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe ellir addasu’r hyfforddiant ar gyfer y meysydd polisi neilltuol sy’n effeithio ar sefydliad neu fudiad. Fe fydd yn cwmpasu datblygiad polisi a’r prosesau deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig, ac fe fydd yn edrych ar ba feysydd sydd wedi’u datganoli a pha rai sy’n annatganoledig. Fe ellir hefyd darparu trosolwg ar bolisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn yr Undeb Ewropeaidd.
Am fwy o wybodaeth am ein hyfforddiant mewnol neu i drafod eich anghenion, a fyddech cystal â chysylltu â: Claire Sharp, Swyddog Hyfforddi, Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn: 029 20342434, E-bost: claire.sharp@childreninwales.org.uk