Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaethol sydd â’r nod o hyrwyddo ymagweddiad integredig ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol. Mae’r cyrsiau’n gwneud defnydd o adnoddau’n tîm ni’n hunain o staff arbenigol, a rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau ac unigolion sy’n arbenigwyr, i ddarparu digwyddiadau hyfforddi o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fannau cyfarfod ledled Cymru. Mae’n cyrsiau hyfforddi wedi’u hanelu at bobl sy’n gweithio yng Nghymru, ac maent yn adlewyrchu’r cyd-destun Cymreig a dargyfeiredd cynyddol oddi wrth bolisi plant a theuluoedd yn Lloegr.
Mae Plant yng Nghymru hefyd yn trefnu hyfforddiant "mewnol" ar gyfer ein cyrsiau i gyd ac mae’n darparu hyfforddiant Am Ddim o dan y rhaglen Cyrraedd y Nod mewn ardaloedd Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
I gael gwybod mwy, lawrlwythwch gopi o’n llyfryn hyfforddiant, neu porwch drwy’r calendr isod i ddod o hyd i gyrsiau ac i gadw lle.