Gwneud Bywyd yn Amhosibl: Sut mae anghenion plant ymfudol anghenus yn mynd heb eu bodloni, 27/04/16 [C, Ll, A, GI]
27.04.16
Mae Cymdeithas y Plant wedi cyhoeddi adroddiad am amgylchiadau a phrofiadau teuluoedd ymfudol sy’n ceisio cymorth o dan Adran 17 Deddf Plant 1989.
Gall statws mewnfudo plentyn neu ei rieni effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau, gan arwain yn aml at amddifadrwydd ac amgylchiadau bregus. O dan Adran 17 Deddf Plant 1989, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gefnogi ‘plant mewn angen’ sy’n byw yn eu hardal, ac i lawer o deuluoedd ymfudol gall y ddyletswydd hon fod yr unig gyfle sydd ganddynt i fwydo a chael llety i’w hunain a’u teuluoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am y sawl y mae eu statws yn effeithio ar eu hawl i weithio yn y DU.
Nododd yr adroddiad nifer o achosion cymhleth dros amddifadrwydd, fel trais domestig, ac anghenion byr-dymor y plant hyn sydd yn aml yn byw mewn sefyllfaoedd peryglus ac o bosibl ffrwydrol iawn. Er gwaethaf eu hangen, mae teuluoedd ymfudol yn aml yn wynebu rhwystrau sytlweddol i dderbyn dim ond asesiad priodol am gymorth oddi wrth eu hawdurdod lleol. Peth mynych yw troi at fygythiadau cyfreithiol dim ond i dderbyn y lefelau isaf o gefnogaeth.
I weld yr adroddiad llawn ewch i wefan Cymdeithas y Plant.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks