Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
    • Cyfarfodydd Llawn
    • Cabinet
    • Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cynrychiolwyr o’r trydydd sector yn cwrdd â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, 09/12/90 [C]
Cynrychiolwyr o’r trydydd sector yn cwrdd â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, 09/12/90 [C]

Ddwywaith y flwyddyn, mae cynrychiolwyr o sefydliadau’r trydydd sector yn cael cyfle i gwrdd â holl weinidogion cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yng nghyfarfod yr hydref gydag Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, trafodwyd adroddiadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y Cynllun Datblygu Gwledig, y rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg a chynllun gweithredu adrannol yr adran Materion Gwledig, ynghyd â chyfraniadau gan y trydydd sector ar dlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig ac agweddau gwledig ar gam-drin domestig.

Mynegodd cynrychiolwyr sefydliadau’r trydydd sector eu pryderon am y trefniadau ariannu ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig, trefniadau na wnânt ddim darpariaeth ar gyfer arian ymlaen llaw ac maent yn arbennig o anodd i sefydliadau trydydd sector sydd â chronfeydd arian cyfyngedig. Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi dyfarnu na ellir gwneud blaendaliadau dan y CDG nac o dan unrhyw raglen arall a ariennir gan y Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (CAP), ond cytunodd i geisio codi blaendaliadau yng nghylch nesaf y CAP.

Ar ôl trafod papur y trydydd sector ar dlodi tanwydd yng nghefn gwlad, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gweithio gyda’r Gweinidog arweiniol, Jane Davidson AC, i archwilio’r agweddau gwledig ar y Strategaeth arfaethedig. Roedd canfyddiadau astudiaeth i Ardaloedd Gwledig Anghysbell yn cael eu cyhoeddi yn Rhagfyr, ac roedd yn cynnwys manylion defnyddio ynni mewn ardaloedd gwledig anghysbell.

Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai’n codi pryderon y trydydd sector ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol newydd Llywodraeth y Cynulliad ar Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig gyda’i chydweithwyr yn yr adran dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Mae copïau o’r holl bapurau a chofnodion y cyfarfodydd gweinidogol i’w gweld ar wefan WCVA.

 

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cynrychiolwyr o’r trydydd sector yn cwrdd â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, 09/12/90 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence