Cyfarfu Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, â chynrychiolwyr o rwydweithiau’r trydydd sector dan nawdd Cynllun Sector Gwirfoddol y Cynulliad Cenedlaethol ar 12 Tachwedd 2008. Hefyd yn bresennol oedd Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai, a dynnodd sylw at brosiectau mae hi wedi bod ynghlwm â hwy, gan bwysleisio’r berthynas gadarnhaol rhwng ei gwaith hi a gwaith y Gweinidog.
Eglurodd y Gweinidog bod ei blaenoriaethau’n canolbwyntio ar yr agenda Datblygu Cynaliadwy ehangach. Roedd cartrefi cynaliadwy’n hollbwysig i’r gwaith a byddai angen hyrwyddo’r dull gweithredu hwn i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sector preifat. Dywedodd y Gweinidog wrth y grŵp y byddai’n llofnodi siarter gyda chynrychiolwyr o fudiadau allweddol yn y diwydiant adeiladu sy’n gosod allan ymrwymiad i leihau allyriadau o brosiectau adeiladu.
Eglurodd ymhellach y byddai’n edrych ar y system cynllunio yng nghyd-destun mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd i hybu datblygiadau ynni effeithlon sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio at sgoriau BREEAM rhagorol ar gyfer yr adeiladau yr oedd yn eu hadeiladu a chadarnhaodd y Gweinidog bod datganoli rheoliadau adeiladu ar y trywydd iawn ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau yn 2009. Byddai’r pwerau hyn yn gam mawr i sicrhau bod dyhead 2011 o wneud pob cartref newydd yn ddi-garbon o fewn cyrraedd. Yr oedd ar y sector hefyd eisiau edrych ar y cyfleoedd i gaffael tir ar gyfer prosiectau adeiladu drwy ddod â gwariant y dyfodol i mewn i’r flwyddyn ariannol bresennol i helpu i gefnogi’r cynllun prynwr newydd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai angen ystyried nifer o faterion yn ofalus.
Cafwyd trafodaeth wedyn am Newid yn yr Hinsawdd a dywedodd y Gweinidog fod WCVA wedi cael ei wahodd i ymuno â Chomisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Holodd y sector y Gweinidog am y Trywydd Ynni Adnewyddadwy a hynt y Fframwaith Ynni Morol. Eglurodd y Gweinidog y byddai elfennau mwy cyraeddadwy’r Trywydd yn cael eu hadlewyrchu yn y Strategaeth Ynni arfaethedig ac y byddai elfennau eraill ar gael flwyddyn nesaf. Aeth y Gweinidog ymlaen i siarad am y Mesur Llifogydd a Dŵr a fyddai’n galw am fewnbwn hollbwysig gan y trydydd sector a byddai hon yn eitem ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Dywedodd Simon Bilsborough o’r Uned Strategaeth Gorfforaethol wrth y grŵp am y cynlluniau i gynnal diwrnod cwrdd i ffwrdd yn ystod gwanwyn 2009 i ddatblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Is-adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai a fyddai’n canolbwyntio ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy drafft ac 2il Gynllun Gweithredu Strategaeth yr Amgylchedd, gan roi hwb cryfach a chyd-destun polisi cliriach ar gyfer y diwrnod. Cadarnhaodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bod yn cytuno i fudiadau allanol ddod i’r diwrnod.
Cyflwynodd Charles Coombs o’r Is-adran Polisi Strategol ei bapur Gwell ymgynghori - gwell i bawb, gan egluro bod llawer iawn o ymarfer da i’w gael yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ond bod angen dod â hynny ynghyd a’i roi ar waith yn fwy cyson. Roedd materion a oedd eisoes wedi’u nodi yn cynnwys:
Roedd y Gweinidog yn cydnabod bod capasiti yn hanfodol er mwyn ymgysylltu’n effeithiol â’r sector gwirfoddol ac y byddai targedu ymgynghoriadau’n effeithiol yn hanfodol i’w llwyddiant. Cafwyd trafodaeth wedyn am ymgynghoriadau a diolchwyd i’r trydydd sector am eu sylwadau.
Defnyddiodd Bethan Lewis, Uwch Swyddog Polisi gyda WCVA, y cyfle i gyflwyno’r ymchwil yr oedd WCVA wedi’i wneud ar y papur Gwirfoddoli Gwyrdd a gwaith yn y sector gwirfoddol i ymateb i sialens newid yn yr hinsawdd.
Mae papurau’r cyfarfod ar gael ar wefan WCVA.