Cyfarfu Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, â chynrychiolwyr rhwydweithiau’r trydydd sector dan nawdd Cynllun Sector Gwirfoddol y Cynulliad Cenedlaethol ar 2 Rhagfyr 2008.
Siaradodd y Gweinidog am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Cynllun y Sector Gwirfoddol yn ei adran rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2008. Dywedodd ei fod yn bwriadu cael ymgynghoriad llawn ar y ddyletswydd ddiwylliannol statudol maes o law. Dywedodd hefyd fod datblygu strategaeth diwylliant newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cael ei ystyried ond nad oedd manylion ar gael eto.
Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Bwrdd Strategaeth Celfyddydau wedi cwrdd bedair gwaith a’i fod yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig o ran datblygu polisi celfyddydau. Yn y cyfarfodydd hyn, mae’r Bwrdd eisoes wedi trafod nifer o faterion trosfwaol megis celfyddydau ac iechyd, a materion rhyngwladol – gydag uwch swyddogion o’r adrannau perthnasol yn dod i gyfarfodydd y Bwrdd i sicrhau trafodaeth lawn. Celfyddydau Gwirfoddol Cymru sy’n cynrychioli’r trydydd sector yn y cyfarfodydd hyn. Mae’r Bwrdd Strategaeth Celfyddydau’n mynd ag argymhellion eraill yn Adroddiad Stephens rhagddynt yng nghyswllt Cwmnïau Cenedlaethol a Phartneriaethau Rhanbarthol.
Cyfarfu cynrychiolwyr o’r trydydd sector â swyddogion y Cynulliad ar 18 Tachwedd i adolygu Cynllun Gweithredu Strategol Trydydd Sector yr Adran Dreftadaeth. Yn dilyn y cyfarfod hwn mae cynllun gweithredu drafft wrthi’n cael cymeradwyaeth yn y grŵp a bwriedir ei gyflwyno i’r Gweinidog ym mis Chwefror.
Cyflwynodd y Trydydd Sector bapur – Treftadaeth 2: Canolbwyntio ar yr Amgylchedd Hanesyddol Hydref 2008 a chrynhoi canlyniadau’r gynhadledd lwyddiannus iawn, argymhelliad clir hynny oedd sefydlu mudiad cyswllt treftadaeth i rannu gwybodaeth a chryfhau partneriaethau â llywodraeth. Cytunodd cynrychiolwyr o’r trydydd sector i barhau i gael trafodaethau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu corff cyswllt.
Roedd cynrychiolwyr y trydydd sector yn falch o glywed bod yr Ysgrifennydd Parhaol yn gwella dulliau ymgynghori’r Llywodraeth dan faner y rhaglen ‘Hwyluso Llywodraeth’ ac y byddai cyfarwyddyd ar gyfer y Cynulliad i gyd yn cael ei ddatblygu o ganlyniad i hynny i wella ei ddulliau ymgynghori ac ymgysylltu.
Cyflwynodd y Trydydd Sector bapur o’r enw Gweithgarwch Diwylliannol a’i Gyfraniad at yr Agenda Iechyd, a groesawyd gan y Gweinidog. Nododd y Gweinidog faint o weithgarwch diwylliannol y trydydd sector sy’n gwneud cyfraniad at yr agenda iechyd a lles. Croesawodd cynrychiolwyr y trydydd sector y cyfle i archwilio gyda’r Gweinidog sut y gellir cydnabod a datblygu ymhellach bŵer y celfyddydau cyfranogol i ddarparu canlyniadau iechyd a lles. Cafwyd trafodaeth fer wedyn ar y papur a nodwyd:
Mae papurau’r cyfarfod ar gael ar wefan WCVA.