Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
    • Cyfarfodydd Llawn
    • Cabinet
    • Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Cyfarwyddiadau
  • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cyfarfod y Trydydd Sector gyda Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, 24/11/08 [C]
Cyfarfod y Trydydd Sector gyda Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, 24/11/08 [C]

Roedd gan gynrychiolwyr mudiadau’r trydydd sector dair eitem ar yr agenda i’w trafod â’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (PADGOS), a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, yn eu cyfarfod yn hydref 2008 – sef cynllunio ac ariannu dysgu anffurfiol yn y dyfodol, y cyfleoedd a gynigir gan Gemau Olympaidd 2012 ar gyfer cynyddu gweithgarwch corfforol yng Nghymru, a’r gyllideb ar gyfer 2009-10.

Cyflwynodd y trydydd sector bapur am ddysgu anffurfiol, a oedd yn amlinellu cyfraniad mudiadau’r trydydd sector at y maes hwn ac yn mynegi pryder ynghylch y pwyslais a roddir ar sgiliau, yn hytrach na dysgu, yn y cynigion newydd ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog y byddai’r cyfyngiadau ar y gyllideb, yn sgil yr hinsawdd economaidd bresennol, yn lleihau gwariant Llywodraeth y Cynulliad. Nod y strategaeth newydd ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned oedd cynhyrchu fframwaith polisi mwy rhesymol drwy ddod o hyd i achosion o ddyblygu a chreu gwerth ychwanegol. Pwysleisiodd fod y sector gwirfoddol yn bartner pwysig ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn, a dywedodd y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn cyflwyno ymateb manwl i’r pwyntiau a godwyd yn y papur.

Wedyn, cyflwynodd cynrychiolwyr y trydydd sector bapur am sut y gellir defnyddio Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 i annog mwy o weithgarwch corfforol, yn enwedig mewn mudiadau addysgol a mudiadau i bobl ifanc. Cytunodd y Gweinidog fod y gemau hyn yn gyfle gwych, ac esboniodd fod ei hadran eisoes yn ymchwilio i’r mater hwn. Awgrymodd y dylai cynrychiolwyr y trydydd sector gysylltu â’i swyddogion.  

Yn olaf, gofynnwyd i’r Gweinidog gyflwyno ei blaenoriaethau ar gyfer 2009-10, y gyllideb, a’i goblygiadau i fudiadau’r trydydd sector. Dywedodd y byddai’r gyllideb yn dynn, ac yn y cyd-destun economaidd presennol, byddai Datganiad Rhag-gyllidebol y Canghellor yn nes ymlaen heddiw yn effeithio ar wariant Llywodraeth y Cynulliad.  Prif flaenoriaeth y Gweinidog oedd y Cyfnod Sylfaen, ac roedd cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau o’r cronfeydd wrth gefn i’w gefnogi.  Roedd yr holl Weinidogion yn archwilio eu blaenoriaethau polisi ond roedd y gyllideb ar gyfer PADGOS wedi cynyddu 5.5.%, tra roedd cynnydd o 3.4% wedi’i sicrhau i Adrannau eraill.

Roedd arian ar gyfer plant anabl yn flaenoriaeth arall i Weinidogion, ac roedd arian ychwanegol wedi’i ddyrannu i raglenni ar gyfer plant anabl.  Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd y gwaith arloesol a oedd yn cael ei wneud o fewn PADGOS i bennu cyllidebau ar gyfer plant, ar draws pob un o adrannau Llywodraeth y Cynulliad, mewn ymateb i argymhelliad gan Uwch Gomisiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd cynrychiolwyr y trydydd sector y dylai’r Gweinidog hefyd edrych ar sut y bydd dyraniadau cyllideb yn ystyried sut y byddai gwario ar un maes yn effeithio ar y gwariant ar faes arall; sef yr hyn y gellid ei alw’n ‘gyllidebu ochrol’, e.e. mynd i’r afael â thlodi plant drwy roi cyfleoedd i oedolion i ddysgu.    

Mae copïau o’r holl bapurau a chofnodion y cyfarfodydd â’r gweinidogion ar gael yn:

http://www.wcva.org.uk/policy/dsp_paper_ministerial.cfm?0=0&display_sitetextid=174&sub=3 neu p://www.wcva.org.uk/policy/dsp_paper_ministerial.cfm?0=0&display_sitetextid=174&sub=3&lang=cy

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cyfarfod y Trydydd Sector gyda Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, 24/11/08 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence