Y mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, wedi gorchymyn adolygiad i doiledau ysgol ymysg pryderon ynglŷn ag iechyd, hylendid a diogelwch.
Y mae’r Gweinidog eisiau gwybod pa gyfleusterau sydd ar gael i ddisgyblion a pha welliannau sydd eu hangen gan gynghorau ledled y rhanbarth.
Fe ddaw’r cyhoeddiad yn dilyn canfyddiadau gan arolygwyr Estyn a wnaeth amcangyfrif bod toiledau mewn mwy na hanner (54 y cant) ysgolion cynradd yn fudr neu’n annerbyniol.
Ym mis Mehefin 2004, fe wnaeth Comisiynydd Plant Cymru gyhoeddi ‘Codi’r Clawr ar Doiledau Ysgol y Genedl’, a wnaeth argymell cynnal archwiliad o holl doiledau ysgol o fewn 12 mis, argymhelliad nas dilynwyd.