Mae’r Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu peilot i’w gynnal ledled Cymru i edrych ar farwolaethau plant.
Bydd y peilot Cymreig, sy’n seiliedig ar fodel Ymchwiliad Cyfrinachol i Iechyd Mamau a Phlant a edrychodd ar farwolaethau plant mewn nifer o ardaloedd penodol am flwyddyn, yn canolbwyntio ar hunan-laddiad ymysg plant gan chwilio am y ffactorau y gellid eu hosgoi sydd wedi cyfrannu at farwolaethau plant.
Mae tua 300 o blant yn marw bob blwyddyn yng Nghymru – ac o’r rheini, mae bron eu hanner yn fabanod o dan 28 diwrnod oed.
Ar ôl asesu’r peilot, yr amcan fydd cyflwyno cynllun o Arolygon Marwolaethau Plant llawn o 1 Ebrill 2010, hynny ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid ar unrhyw reoliadau a chanllawiau newydd.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.