Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Polisi
    Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
    » Newyddion Polisi
    Ymgynghoriadau
    Dogfennau
    Deddfwriaeth
    Trafodion
    Cyfranogi
    Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
    Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
    E-gyfarwyddiad
    Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
    Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
    Lloegr, San Steffan a Whitehall
    Gogledd Iwerddon
    Yr Alban

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Newyddion Polisi »Cynigion ar gyfer deddfau newydd parthed cludiant ysgol ar gyfer Cymru, 15/04/08 [W]
Cynigion ar gyfer deddfau newydd parthed cludiant ysgol ar gyfer Cymru, 15/04/08 [W]

Y mae’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, wedi rhoi cynlluniau gerbron i wella cludiant ysgol yng Nghymru.

Fe osodwyd y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) gerbron y Cynulliad ar y 15fed o Ebrill.

Fe fydd y deddfau newydd yn darparu fframwaith i wella diogelwch drwy fynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol, ac fe ofynnir i awdurdodau lleol ystyried defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng a hebryngyddion ar fysiau ysgol.

Fe fydd y Mesur hefyd yn gwneud cludiant ysgol yn rhad ac am ddim i blant ysgolion cynradd sy’n byw ddwy filltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf. Ar hyn o bryd, y ddeddf yw tair milltir o wyth mlwydd oed.

Fe ganiateir i awdurdodau lleol newid amseroedd dechrau ysgolion er mwyn gwneud trefniadau cludiant yn fwy effeithiol, effeithlon neu’n amgylcheddol sefydlog.

Fe ddywedodd y Gweinidog ei fod yn amcanu at gael y prif ddarpariaethau yn eu lle ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd yn 2009.  Fe ddywedodd hefyd mai’i fwriad yw ceisio â chael rhagor o bŵer deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd rhagor o gamau ynglŷn â rheoleiddio bysiau a materion diogelwch.

Fe ellir lawrlwytho’r Mesur arfaethedig oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe gyhoeddwyd y Mesur drafft ar gyfer ymgynghori ym mis Mehefin 2007, ac fe graffwyd arno gan Bwyllgor Menter a Dysgu y Cynulliad Cenedlaethol, a gyhoeddodd adroddiad ym mis Tachwedd, 2007.

Dolenni Cysylltiol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y mae gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn darparu manylion ynglŷn â sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio, bywgraffiadau Aelodau’r Cynulliad, deddfwriaeth, pwyllgorau a thrafodion.
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313