Mae’r Bil Diwygio Lles bellach wedi cael ei basio yn y Senedd, ar ôl cael ei daflu’n ôl ac ymlaen rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi am sawl wythnos, wedi i’r arglwyddi ei wrthod.
Mae’r bil yn cyflwyno terfyn blynyddol ar y budd-daliadau a all gael eu derbyn ac yn gwneud newidiadau i lawer o fathau o daliad. Bydd yn cyflwyno Credyd Cynhwysol i gymryd lle llawer o fudd-daliadau.
Nod y diwygiadau yw symleiddio’r system fudd-daliadau a "gwneud i waith dalu", ond mae pryderon wedi cael eu codi gan grwpiau plant a chyrff eraill y bydd y diwygiadau yn gadael y bobl hawsaf eu niweidio mewn sefyllfa ariannol waeth. Mae’r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol hefyd wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n rhybuddio y bydd yn peryglu hawl pobl anabl i fyw yn annibynnol.
Bydd y bil yn mynd yn ei flaen bellach i dderbyn y Cydsyniad Brenhinol.
Mae rhagor o wybodaeth am ddiwygio lles ar gael ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.