Mae pedwar Comisiynydd Plant y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cyd-ddatganiad sy’n mynegi eu pryder difrifol am yr effaith negyddol ddifrifol a gaiff cynigion y Bil Diwygio Lles Bill ar gannoedd o filoedd o blant.
Cred y Comisiynwyr y bydd y terfyn o £26,000 ar gyfer budd-daliadau teuluol, gan gynnwys budd-daliadau tai a phlant, yn cael effaith anghymesur ar blant, yn enwedig y sawl sydd hawsaf eu niweidio.
Mae’r datganiad yn pwyso ar y Llywodraeth i ailystyried y newidiadau hyn ac i barchu eu rhwymedigaethau tuag at les plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae modd gweld y datganiad llawn i’r wasg ar wefan Comisiynydd Plant Lloegr.