Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi gwneud datganiad yn y senedd yn amlinellu cynnwys bil Gwasanaethau Cymdeithasol newydd i Gymru.
Bydd y bil, y bwriedir ei gyflwyno ym mis Hydref 2012, yn cynnwys darpariaethau i roi amddiffyn oedolion art sail statudol, a chysylltiadau amlycach rhwng amddiffyn oedolion ac amddiffyn plant. Caiff hyfforddiant ac ymddygiad gweithwyr proffesiynol eu rheoleiddio drwy’r ddeddfwriaeth newydd.
Bydd y gyfraith newydd hefyd yn ceisio symleiddio’r broses fabwysiadu drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i greu un asiantaeth fabwysiadu.
Mae’r bil Gwasanaethau Cymdeithasol yn un o’r camau allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r bwriad yw iddo gyflawni’r nodau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru – Fframwaith ar gyfer Gweithredu, y ddogfen strategaeth a gyhoeddwyd ym mis Chwefror.
Mae’r trawsgrifiad llawn o ddatganiad llafar y Dirprwy Weinidog ar gael o Gofnod Cynulliad Cenedlaethol Cymru.