Mae’r Swyddfa Gartref wedi lansio ymgyrch hysbysebu newydd i herio agweddau pobl ifanc yn eu harddegau tuag at drais a chamdriniaeth mewn perthnasoedd.
Mae’r hysbysebion yn herio pobl ifanc 13 i 18 mlwydd oed i roi’r gorau i ymddygiad camdriniol, i chwilio am gymorth, yn ogystal ag amlygu arwyddion a chanlyniadau camdriniaeth.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar y teledu, y radio a hysbysebion wedi’u hargraffu, yn ogystal â gwefan yn rhoi manylion ffynonellau cymorth.