Fe dderbyniodd y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) Gymeradwyaeth Frenhinol ar y 10fed o Chwefror, 2010.
Mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth statudol i fwrw ymlaen gydag ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran tlodi ymysg plant, ac i fwrw ymlaen gyda datblygiad cynnar ei strategaeth ar gyfer plant sy’n agored i niwed drwy gyflwyno deddfwriaeth i ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd ble y gall plant fod mewn perygl, a chryfhau gorfodaeth reoliadol mewn lleoliadau plant.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.