Mae Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) yn bwriadu tynnu ynghyd grŵp cynghori o bobl 14-19 mlwydd oed, sy’n byw yn ac o amgylch ardaloedd Caerdydd, Bryste ac Abertawe i gynorthwyo i gynghori ynglŷn â chynhyrchu ymchwil ar y materion iechyd sy’n effeithio ar bobl ifanc.
Mae Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) yn un o bum Canolfan Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd newydd gan Cydweithredu ar Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC), sy’n amcanu at hysbysu a goleuo gwelliannau parhaol o ran iechyd plant a phobl ifanc.
Fe fydd hyfforddiant a chymorth llawn yn cael eu cynnig, yn ogystal â thaliad am amser y bobl ifanc.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.decipher.uk.net