Mae Gweinidog Iechyd Edwina Hart wedi cyhoeddi y bydd cyfanswm o £155,000 dros y ddwy flynedd nesaf yn mynd tuag at raglen Treial Rhoi'r Gorau i Ysmygu mewn Ysgolion (ASSIST), lle mae arbenigwyr hybu iechyd yn hyfforddi disgyblion i berswadio eu ffrindiau i beidio â dechrau smygu neu i roi'r gorau iddi.
Eisoes manteisiodd 58 o ysgolion ar y rhaglen ASSIST, gydag 8 arall yn cwblhau y tymor hwn. Bydd y cyllid newydd yn galluogi 20 ysgol arall i fanteisio ar y rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.