Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Polisi
    • Newyddion Polisi
    • Ymgynghoriadau
    • Dogfennau
    • Deddfwriaeth
    • Trafodion
    • E-gyfarwyddiad
    • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
    • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 18/11/09, [C/Ll/GI/A]
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 18/11/09, [C/Ll/GI/A]

Fe wnaed Araith y Frenhines, sy’n amlinellu’r Mesurau ar gyfer sesiwn newydd y Senedd, ar y 18fed o Dachwedd 2009.

Mae Mesurau sy’n neilltuol o berthnasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cynnwys:

Mesur Tlodi Plant: Fe fydd y Mesur hwn, sydd wedi’i ddwyn drosodd o’r sesiwn olaf, yn ymgorffori mewn cyfraith ymrwymiad y Llywodraeth i ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020.

Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd: Fe fydd y Mesur hwn yn darparu pwerau fframweithiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru parthed rheoleiddio addysg yn y cartref. Mae yna ddwy ddarpariaeth ddrych arall ar gyfer Cymru yn gysylltiedig â rhwymedigaeth ar ysgolion i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru, ac, ar wahân, rhannu gwybodaeth ar gyfer dibenion diogelu plant.

Mesur Troseddau a Diogelwch: Fe fydd y Mesur yn cynyddu’r diogelwch i gymunedau rhag ystod o fygythiadau a chamfanteisio ariannol, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Mae’n cyflwyno asesu gorfodol o anghenion rhianta pan fydd plant 10 i 15 mlwydd oed yn cael eu hystyried am Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac mae’n rhoi’r grym i’r heddlu i wahardd pobl a ddrwgdybir o gyflawni trais teuluol o’u cartrefi am gyfnod, hyd yn oed pan na chânt eu cyhuddo.

Mesur Economi Digidol: Mae’r mesur hwn yn gwneud gosod graddfeydd oed yn orfodol ar holl gemau fideo a gynlluniwyd ar gyfer plant 12 oed a hŷn.  

Mesur Ynni: Mae’r Mesur hwn yn cryfhau pwerau rheolyddion i sicrhau bod tariffau cymdeithasol ar gyfer cyflenwyr ynni’n cael eu gosod i gynorthwyo’r sawl sy’n agored i dlodi tanwydd.

Mesur Cydraddoldeb: Fe fydd y Mesur hwn, sydd wedi’i ddwyn drosodd o’r sesiwn olaf, yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru roi dyletswyddau cydraddoldebau penodol ychwanegol ar gyrff cyhoeddus sy’n gweithredu swyddogaethau datganoledig a swyddogaethau datganoledig cyrff trawsffiniol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Senedd.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 18/11/09, [C/Ll/GI/A]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence