Y mae’r Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion wedi’i basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Nod y Mesur, a gyflwynwyd gan Jenny Randerson, AC, yw sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo a’i gefnogi mewn ysgolion ledled Cymru.
Y mae hefyd yn gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i annog hawlio prydau bwyd ysgol ac i hyrwyddo hawlio prydau bwyd ysgol am ddim ymysg y sawl sy’n gymwys.
Y mae rhagor o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.