Y mae’r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.
Gan gwmpasu pob agwedd o fywyd, yn cynnwys iechyd, addysg, cyflogaeth a mynediad at gyfiawnder, y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (UNCRPD) yn ailddatgan bod gan bobl anabl – ac y dylent allu meddu ar – eu hawliau dynol ar sail gydradd â phobl nad ydynt yn anabl.
Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig lofnodi’r Confensiwn ym mis Mawrth 2007, ac ers hynny y mae holl Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi bod yn ystyried a yw’u deddfwriaeth, polisïau, a’u rhaglenni’n cydymffurfio â gofynion y Confensiwn.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.