Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Polisi
    • Newyddion Polisi
    • Ymgynghoriadau
    • Dogfennau
    • Deddfwriaeth
    • Trafodion
    • E-gyfarwyddiad
    • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
    • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
BBC Plant Mewn Angen yn lansio Cynllun Grant Newydd, 01/07/09 [C/Ll/GI/A]
BBC Plant Mewn Angen yn lansio Cynllun Grant Newydd, 01/07/09 [C/Ll/GI/A]

Dim ond un mis ar ôl i fudiadau wneud cais ar gyfer cynllun grant newydd BBC Plant mewn Angen – Hwyl a Chyfeillgarwch – sydd a’i ffocws ar pobl ifanc 12 – 18 oed sydd ag anabledd ac yn byw ym Mhrydain.

Mae’r rhaglen, gwerth £3 miliwn, wedi ei greu yn dilyn canfyddiadau ymchwil a gomisiynwyd yn datgelu diffyg sylweddol yn y cyfleoedd ar gyfer cymdeithasu annibynnol ymhlith pobl ifanc anabl, gan arwain at deimladau unig ac ynysig. Mae BBC Plant Mewn Angen yn targedu mudiadau sydd yn gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfeillgarwch, gan adnabod a herio’r rhwystrau sydd yn wynebu pobl ifanc yn eu harddegau.

Mae BBC Plant Mewn Angen yn bwriadu cynnig hyd at 12 grant tair blynedd o hyd at £300,000 yr un. Mae’r rhaglen Hwyl a Chyfeillgarwch yn ychwanegol at raglen grantiau arferol BBC Plant Mewn Angen.

Bwriadwyd y cynllun ar gyfer mudiadau sydd â’r strwythur a’r profiad i gefnogi cyfranogiad ac arweinyddiaeth pobl ifanc anabl ac sydd yn barod i ymuno yn y rhwydwaith o brosiectau er mwyn rhannu profiadau yn y maes.

Dylai prif ffocws y prosiectau fod ar gymdeithasu gyda phobl ifanc anabl ar y blaen yn penderfynu sut mae hynny’n datblygu. Bydd angen cyplysu hynny gydag ymrwymiad i rannu’r hyn a ddysgir yn y broses.

Gorffennaf 31ain 2009 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais.

Bydd y sawl sydd yn llwyddiannus yn derbyn eu grant yn Chwefror 2010.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan BBC Plant Mewn Angen.

Dolenni Cysylltiol

Plant Mewn Angen
Y mae Apêl Plant Mewn Angen y BBC yn cynorthwyo i gymorth prosiectau sy’n cynorthwyo plant sydd â sawl math o anghenion yn y Deyrnas Gyfunol.
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
BBC Plant Mewn Angen yn lansio Cynllun Grant Newydd, 01/07/09 [C/Ll/GI/A]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence