Mae’r Mesur Arfaethedig ar Addysg (Cymru) wedi cael ei osod o flaen Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y Mesur hwn yn rhoi hawliau i blant a phobl ifanc wneud apeliadau anghenion addysgol arbennig (AAA) a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys AAA Cymru.
Fe fydd yna cyfnod peilot cychwynnol mewn ardaloedd penodol, ac wedyn bydd yna hawl i blant ar draws Nghymru apelio a hawlio i’w Tribiwnlys.
Mae’r Mesur hefyd yn rhoi dyletswydd newydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i roi mynediad i wasanaethau eiriolaeth annibynnol sy’n gallu gwrando ar safbwyntiau a phryderon plant, a’u lleisio.
Mae’r Mesur llawn ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.