Y mae newidiadau i’r Rheolau Llysoedd, a fydd yn caniatáu i’r cyfryngau gael mynediad i rai agweddau o Achosion Teulu yn y Llysoedd, i fod i ddod i rym ar y 27ain o Ebrill, 2009.
Fe fydd y cyfryngau achrededig yn gallu mynychu pob lefel o Lysoedd Teulu, gan gael gwared â’r anghysondeb presennol o ran mynediad sydd yna rhwng y llysoedd uwch a’r llysoedd is. Fe fydd yn rhaid i gynrychiolwyr y cyfryngau sy’n mynychu llysoedd teulu fod yn achrededig drwy fod yn meddu ar Gerdyn Gwasg y Deyrnas Unedig.
Y mae’r newidiadau hyn yn dilyn datganiad llafar y Gwir Anrhydeddus Jack Straw, AS, gerbron Tŷ’r Cyffredin a’r ddogfen ymgynghori gysylltiedig, "Family Justice in View".
Y mae’r gwelliannau ar gael yn y dolenni a ganlyn:
Fe ddylid cyfeirio rhagor o ymholiadau at David.Clayton@wales.gsi.gov.uk neu Donna.Davies@wales.gsi.gov.uk yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.