Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Polisi
    • Newyddion Polisi
    • Ymgynghoriadau
    • Dogfennau
    • Deddfwriaeth
    • Trafodion
    • E-gyfarwyddiad
    • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
    • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 03/12/08, [W/E/S/NI]
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 03/12/08, [W/E/S/NI]

Fe wnaed Araith y Frenhines, yn amlinellu’r mesurau ar gyfer sesiwn newydd y Senedd, ar y 3ydd o Ragfyr, 2008.

Y mae Mesurau sy’n neilltuol o berthnasol i Blant a Phobl Ifanc yn cynnwys:

Y Mesur Ffiniau, Mewnfudo a Dinasyddiaeth - Fe fydd y Mesur yn disodli’r holl ddeddfwriaeth mewnfudo bresennol ac fe fydd yn anelu at symleiddio’r gwaith o reoli ymfudo, rheoli ffiniau, a’r llwybr i ddinasyddiaeth y Deyrnas Unedig. Fe fydd yn cyflwyno dyletswydd newydd ar Asiantaeth Ffiniau’r DU i gydnabod yr angen i ddiogelu lles plant.  Y mae’n ymwneud â’r Deyrnas Unedig i gyd.

Y Mesur Tlodi ymysg Plant – Y mae’n ymgorffori mewn cyfraith yr ymrwymiad i ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020.

Y Mesur Cydraddoldeb - Fe fydd y ddeddfwriaeth yn cydgyfnerthu naw o ddeddfau cydraddoldeb presennol yn un. 

Y Mesur Plismona a Throseddu - Y mae’n addo rheolaethau tynnach ynglŷn â’r camddefnydd o alcohol.  Y mae’r Mesur hefyd yn dweud y bydd yn cryfhau gorchmynion atal troseddwyr rhyw a gorchmynion teithio tramor.

Y Mesur Cyfrifon Porth Cynilo – Y mae’r Mesur hwn wedi’i anelu at gael pobl sydd ar incymau isel i gynilo mwy.  Fe fydd y llywodraeth yn cyfrannu 50 ceiniog am bob un bunt a gynilir – gyda chynilwyr yn gallu adeiladu cyfraniadau’r llywodraeth  hyd at £300.

Y Mesur Diwygio Lles - Nod y Mesur yw creu mwy o gymhelliant i bobl symud o fod ar fudd-daliadau i waith, a chanlyniadau ar gyfer y sawl nad ydynt yn gwneud.  Y mae hefyd yn anelu at gryfhau gofynion ar rieni di-breswyl i gyfrannu tuag at fagwraeth eu plant, ac i foderneiddio a symleiddio’r gyfundrefn fudd-daliadau, ac i ddarparu mwy o ddewisiadau o waith cyflogedig ar gyfer pobl sydd ag anableddau.

I gael golwg ar adysgrif o’r Araith, a fyddech cystal â gweld gwefan y Senedd.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 03/12/08, [W/E/S/NI]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence