Y mae Gweinidog Anableddau’r Deyrnas Unedig, Jonathan Shaw, wedi dweud y bydd y llywodraeth yn oedi cyn cadarnhau siarter hawliau anabledd y Cenhedloedd Unedig tan y flwyddyn nesaf.
Yr oedd Gweinidogion wedi rhoi arwydd yn flaenorol y byddai’r Deyrnas Unedig yn cadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl gydag Anableddau erbyn diwedd 2008, ond y mae yna bryderon parhaus wedi bod oddi wrth amrywiol adrannau’r llywodraeth ynglŷn â’i weithredu.
Fe gafodd yr oedi’i ddatgelu yn ystod cyfarfod y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol ar y 18fed o Dachwedd.