Fe gafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Blant Hawdd eu Niweidio ei gymeradwyo gan ddau Dy 'r Senedd ar 12 o Dachwedd 2008. Mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Mesurau Cynulliad ynghylch lles pob plentyn a pherson ifanc gan gynnwys plant hawdd eu niweidio ac am fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.