Mae Cyngor Gofal Cymru wedi lansio ei ymdrechion i chwilio am y timau a’r sefydliadau sy’n perfformio orau yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wrth roi cychwyn swyddogol ar Wobrau Gofal Cymdeithasol 2009.
Nod y Gwobrau – sydd bellach yn cael eu cynnal am y trydydd tro – yw darganfod, cydnabod a gwobrwyo timau, partneriaethau a sefydliadau, sydd wedi helpu i drawsnewid gwasanaethau gofal cymdeithasol yn eu hardal drwy fuddsoddi mewn dysgu a datblygu eu pobl.
Mae yna wyth categori yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2009:
Mae ffurflenni cais ar gael ar wefan Cyngor Gofal Cymru, www.ccwales.gov.uk, neu drwy ffonio Denise French yng Nghyngor Gofal Cymru ar 029 2078 0687.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Chwefror 2009, gydag enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni swyddogol wedi’i harwain gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ar 18 Mehefin 2009.