Y mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd wedi tanlinellu pwysigrwydd eu Diwrnod Ymwybyddiaeth drwy gyhoeddi ymchwil newydd sy’n dangos bod mwy na thri chwarter (77%) oedolion y Deyrnas Unedig sy’n defnyddio’r rhyngrwyd ac sydd wedi digwydd dod ar draws delweddau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol yn ansicr sut i roi gwybod i’r awdurdodau amdanynt.
Yn ychwanegol, fe wnaeth 71% o’r sawl a holwyd restru argaeledd delweddau o gamdriniaeth plant yn rhywiol ar-lein fel eu pennaf bryder am y rhyngrwyd.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd.