Y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dechrau adolygiad i’r driniaeth o’r camddefnydd o sylweddau yng Nghymru. Y mae’n edrych ar y gwaith o gynllunio, comisiynu a darparu triniaethau sy’n ymwneud â rhagnodi amnewidion cyffuriau, er enghraifft, methadon, yn y gymuned. Fe wna’r Arolygiaeth edrych ar amseroedd aros, sut y mae defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu cyfeirio ar gyfer triniaeth a pha wasanaethau cymorth cofleidiol (megis tai, cyflogaeth a hyfforddiant) y maent yn eu derbyn yn ystod ac ar ôl triniaeth. Fe fydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i nodi gwasanaethau sy’n perfformio’n dda i gynorthwyo i wella’r holl wasanaethau triniaeth ledled Cymru ac i ddatblygu canllawiau ar gyfer triniaethau.Yr adolygiad yw’r cyntaf mewn cyfres o adolygiadau a anelir at gynorthwyo i wella ansawdd a chysondeb gwasanaethau triniaeth ledled Cymru. Y maent yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth newydd ddeng mlynedd ar gamddefnyddio sylweddau, ‘Gweithio gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’.
Y mae mwy o wybodaeth ar gael yn natganiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r wasg.
http://new.wales.gov.uk/news/latest/081006review/?lang=en