Fe wnaeth y Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart, amlinellu rhagor o fanylion am yr Ad-drefnu arfaethedig ar gyfer y GIG yn ystod y cyfarfod llawn ar y 30ain o Fedi, 2008. Fe eglurodd y Gweinidog y byddai Bwrdd Cynghori Cenedlaethol a Bwrdd Cyflawni ar wahân yn cael eu sefydlu. Fe fyddai yna hefyd ragor o waith yn cael ei wneud ynglŷn ag a fydd y saith corff newydd yn derbyn rhai o gyfrifoldebau Comisiwn Iechyd Cymru. Fe fydd yna sefydliad Iechyd Cyhoeddus Unedig yn cael ei greu yn unol ag ymrwymiad Cymru’n Un o eiddo Llywodraeth y Cynulliad.
Y mae mwy o fanylion ar gael yng Nghofnod Trafodion y Cynulliad Cenedlaethol.