Y mae’r gyfraith ynglŷn â chynorthwyo hunanladdiad i’w symleiddio er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd a thawelu meddyliau pobl ei bod yr un mor gymwys ar y rhyngrwyd ag y mae all-lein, y mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Maria Eagle, wedi dweud.
Yn dilyn adolygiad o Ddeddf Hunanladdiad 1961, y mae’r llywodraeth wedi penderfynu’i hail-lunio mewn iaith fodern, newydd a fydd yn ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr unigol y rhyngrwyd a busnesau sy’n seiliedig ar y rhyngrwyd, megis Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd, ddeall.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.