Y mae Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yn adrodd bod troseddwyr rhyw sy’n ymwneud â phlant yn defnyddio tactegau sy’n gynyddol fygythiol i ymhél â phlant ac i gamfanteisio ar blant, gyda rhai pedoffiliaid yn cynnal amryw o gyfrifon e-bost ac yn anfon cannoedd o negeseuon i blant bob diwrnod. Er gwaethaf y tueddiadau, y mae Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yn mynnu y dylai rhieni fod yn bryderus ond na ddylent gael eu dychryn gan y datblygiadau newydd hyn, ac y gallai rhieni eu hunain gymryd ychydig o gamau syml i gynorthwyo i gadw’u plant yn ddiogel tra eu bod yn pori’r rhyngrwyd.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CEOP.