Y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid drafft terfynol y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Plant sy’n Agored i Niwed a Thlodi ymysg Plant.
Fe fydd y Gorchymyn yn awr yn mynd rhagddo i gael ei drafod yn y ddau Dŷ yn y Senedd.
Diben y Gorchymyn yw ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i lunio deddfau newydd i Gymru drwy Fesur mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed a thlodi ymysg plant.
Y mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn ymgynghori ar gamau blaenoriaethol i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant ac i gryfhau cymorth i deuluoedd sy’n agored i niwed i’w cynnwys mewn Mesur Cynulliad yn y dyfodol.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cliciwch yma i ddilyn hynt y Gorchymyn.