Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Polisi
    • Newyddion Polisi
    • Ymgynghoriadau
    • Dogfennau
    • Deddfwriaeth
    • Trafodion
    • E-gyfarwyddiad
    • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
    • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Rhaglen Deddfu Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008-09, [C]
Rhaglen Deddfu Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008-09, [C]

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi rhaglen ddeddfu newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2008-09.

Y pum Mesur Cynulliad sydd wedi’u cynnig yw:

  • Tlodi Plant – er mwyn rhoi mwy o help i blant a theuluoedd sy’n dioddef tlodi. Bydd yn cynnwys nifer o fentrau megis rhoi dyletswydd ar asiantaethau cyhoeddus i ddangos tystiolaeth o’u cyfraniad at ddod â thlodi plant i ben ynghyd â dyletswydd i ddarparu lleoedd gofal plant a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill am ddim mewn ardaloedd penodol.
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol – er mwyn sicrhau bod mwy o unigolion yn cael apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
  • Codi tâl am ofal cymdeithasol dibreswyl - defnyddio’r pwerau yn y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Gofal yn y Cartref i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn codi tâl sy’n gyson a theg am wasanaethau penodol.
  • Gwasanaethau lleol gwell – yn sgil adroddiad Beecham, bydd Mesur llywodraeth leol yn gofyn i bartneriaid lleol gydweithio mewn modd effeithiol a chyd-gysylltiedig i wella gwasanaethau a gwneud gwaith cynllunio cymunedol, ac ymgysylltu mwy â dinasyddion a deall blaenoriaethau lleol yn llawn.
  • Tai Fforddiadwy - ar ôl i’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Tai Fforddiadwy gael ei gymeradwyo, y bwriad yw datblygu Mesur a fydd yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i ddynodi ardaloedd sydd dan bwysau diffyg tai er mwyn medru atal yr Hawl i Brynu am gyfnod cyfyngedig.

Nododd y Prif Weinidog hefyd feysydd lle byddwn ni’n ceisio rhagor o bwerau i gyflwyno deddfwriaeth trwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ceisio rhagor o bwerau i gyflwyno deddfwriaeth trwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol er mwyn deddfu i:

  • helpu gofalwyr trwy roi dyletswyddau priodol ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus;
  • gorfodi awdurdodau lleol yn statudol i hybu diwylliant a hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth i roi profiadau diwylliannol o ansawdd uchel i’w cymunedau;
  • sicrhau bod Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru’n cael y pŵer i ddyfarnu graddau sylfaen;

Fe ellir lawrlwytho’r datganiad i’r wasg oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Rhaglen Deddfu Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008-09, [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence