Datblygiad y Mesur Cynulliad arfaethedig ar apeliadau anghenion addysgol arbennig (AAA) a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd.
Bydd y Mesur hwn yn rhoi hawliau i blant a phobl ifanc wneud apeliadau anghenion addysgol arbennig (AAA) a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys AAA Cymru (y Tribiwnlys). Mae’n diwygio’r gyfraith i rieni yng Nghymru wneud apeliadau a hawliadau i’r Tribiwnlys, fel y nodir yn Neddf Addysg 1996 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Fe all aelodau Plant yng Nghymru lawrlwytho cyfarwyddiad ar y Mesur arfaethedig oddi ar adran aelodau'r gwefan hon.