Bydd y Mesur hwn yn creu cyfraith ar gyfer addysg disgyblion ysgol a phobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant 14-19 oed yng Nghymru. Mae’r darpariaethau statudol yn darparu modd o osod fframwaith cyfreithiol fydd yn adlewyrchu’r polisi Llwybrau Dysgu 14-19 ac yn darparu modd o ddatblygu’r fframwaith cyfreithiol hwnnw wrth i’r polisi ddatblygu. Prif bwrpas y Mesur hwn yw creu hawl i ddysgwyr 14-19 oed yng Nghymru i ddewis dilyn cwrs astudio o gwricwlwm lleol, a adwaenir eisoes o fewn Rhwydweithiau Dysgu 14-19 fel ‘Dewislen Opsiynau’.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.