Y mae’r Mesur Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg wedi cael ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Fe fydd y Mesur hwn yn diwygio Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990 a Deddf Trefniadau Mamau Benthyg 1985; ac fe fydd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r personau sydd, mewn amgylchiadau neilltuol, i gael eu trin yn ôl y gyfraith fel rhieni’r plentyn.
Y mae’r Mesur yn rhoi sylw i reoleiddio, dethol rhyw embryonig, lles y plentyn, cyplau o’r un rhyw, cyfyngiadau ar y defnydd o ddata a gasglwyd gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg a chynyddu cwmpas gweithgareddau ymchwil embryonau.
Fe ellir lawrlwytho’r Mesur a Nodiadau Esboniadol oddi ar wefan y Senedd.