Fe roddwyd Cydsyniad y Frenhines i Ddeddf Ffiniau’r Deyrnas Unedig 2007 ar y 30ain o Hydref, 2007.
Ymysg mesurau eraill, fe rydd y Ddeddf bwerau i’r llywodraeth fynnu bod ceiswyr lloches o dan 18 mlwydd oed sydd ar eu pennau’u hunain yn rhoi gwybod yn ddyddiol neu’n wythnosol i swyddog mewnfudo, yn ogystal ag opsiwn i bennu cyrffiw.
Fe ellir lawrlwytho’r Ddeddf oddi ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.