Fe gafodd Deddf Plant 2004 Gydsyniad Brenhinol ar y 15fed o Dachwedd, 2004. Y mae’n cynnwys ystod eang o fesurau a anelir at hyrwyddo buddiannau plant a phobl ifanc.
Comisiynydd Plant
Y mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Comisiynydd Plant dros Loegr. Swyddogaeth gyffredinol y Comisiynydd fydd “promoting awareness of the views and interests of children” yn Lloegr. Y mae hyn yn cymharu â nod Comisiynydd Plant Cymru sydd i “safeguard and promote the rights and welfare of children ” Fe fydd y Comisiynydd yn gallu cynnal ymholiadau i achosion yn ymwneud â phlant unigol os ydynt yn berthnasol i’r materion polisi ehangach ac fe all y rhain naill ai gael eu cychwyn ar gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol neu ar ysgogiad y Comisiynydd ei hun. Fe roddir grymoedd hefyd i’r Comisiynydd yn ymwneud â materion annatganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe fydd ganddo ef/ganddi hi felly'r swyddogaeth o hyrwyddo ymwybyddiaeth o farn a buddiannau plant yng Nghymru yn gysylltiedig â materion nad ydynt eisoes yn dod o fewn cylch gwaith Comisiynydd Plant Cymru. Fe fydd ef/hi hefyd yn gallu cynnal ymholiadau yn ymwneud ag achosion plant unigol yn gysylltiedig â’r materion hyn naill ai ar ei (h)ysgogiad ei hun neu ar gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol. Y mae gofyn i’r Comisiynydd roddi ystyriaeth i farn, ac unrhyw waith a wneir gan Gomisiynydd Plant Cymru wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn yn ymwneud â Chymru.
Y mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud rhai darpariaethau yn gysylltiedig â Chomisiynydd Plant Cymru. Fe fydd ganddo rymoedd mynediad newydd a fydd yn ei alluogi ef i fynd i mewn i adeiladau, ac eithrio cartrefi preifat, i gyfweld plant yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o adolygu a chadw golwg ar drefniadau gan y Cynulliad ac eraill.
Gwasanaethau Plant
Y mae’r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol a’u partneriaid i gydweithredu i wella lles plant. Yng Nghymru, y mae Partneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc eisoes wedi’u sefydlu ym mhob awdurdod lleol i hwyluso cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol a’r partneriaid hyn. Y mae’r Ddeddf yn darparu Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r grym i gyhoeddi cyfarwyddyd ynglyn â’r ddyletswydd newydd ac fe fydd hyn yn eu galluogi hwynt i roi’r Partneriaethau Fframwaith, a’u his-grwpiau y Partneriaethau Plant, ar seiliau statudol. Fe gaiff y partneriaethau hyn gan hynny eu gwneud i gydweddu â’r Partneriaethau Pobl Ifanc, sydd eisoes â seiliau statudol drwy’r Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Fe roddir grymoedd i’r Cynulliad hefyd i wneud rheoliadau yn mynnu bod awdurdodau gwasanaethau plant yng Nghymru yn paratoi ac yn cyhoeddi un cynllun unigol neu fframwaith o gynlluniau ar gyfer gwasanaethau i blant a phobl ifanc.
Cyn belled ag y mae awdurdodau addysg lleol yn y cwestiwn, fe roddir grymoedd i Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) i adolygu swyddogaethau Awdurdodau Addysg Lleol yn ymwneud â’r rhan hon o’r Ddeddf, sef o ran cydweithredu i wella lles a chynhyrchu cynlluniau plant a phobl ifanc ble y mae’r swyddogaethau hyn yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant neu wasanaethau cymorth ieuenctid.
Y mae’r Ddeddf yn mynnu bod pob awdurdod lleol yn canfod cyfarwyddwyr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc. Fe fydd gan y person hwn y cyfrifoldeb dros gynllunio dan y Fframwaith. Fe fydd aelod arweiniol o’r Cyngor dros blant a phobl ifanc hefyd yn cael ei benodi i atgyfnerthu rôl y cyfarwyddwr. Yn ychwanegol at hyn, fe fydd yn rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG benodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol arweiniol ar gyfer plant.
Trefniadau i Ddiogelu Plant ac i Hyrwyddo’u Lles
Y mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, yr heddlu ac eraill, gan gynnwys Timau Troseddau’r Ifanc a byrddau profiannaeth lleol, i roi ystyriaeth i ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles.
Fe wneir darpariaethau hefyd ar gyfer disodli Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant a chael Byrddau Lleol Diogelu Plant (BLDP) yn eu lle yng Nghymru ac yn Lloegr. Fe fydd y BLDP hyn yn cydgysylltu gwaith eu haelodau yn gysylltiedig â diogelu a hyrwyddo lles plant ac fe fydd yn sicrhau bod yr hyn a wneir yn effeithiol. Y mae hyn yn dilyn yr argymhelliad a wnaed gan yr Arglwydd Laming yn adroddiad Ymchwiliad Victoria Climbié. Y bwriad yw y dylai sylfeini statudol y byrddau wella’u dylanwad ar benderfyniadau strategol a’u darparu hwynt gyda mwy o ymroddiad gan yr uwch-reolwyr o gymharu â’r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant presennol.
Rhannu Gwybodaeth
Fe rydd y Ddeddf y grymoedd i’r Cynulliad i wneud rheoliadau er mwyn galluogi sefydlu cronfeydd data lleol am blant. Fe fyddai’r cronfeydd data hyn yn cael eu defnyddio i hwyluso cyfnewid gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau. Fe fydd y Cynulliad yn ymgynghori rhagor ynglyn â’r mater hyn cyn cyflwyno’r cronfeydd data hyn yng Nghymru.
CAFCASS
Y mae cyfrifoldeb am CAFCASS, y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd, yn cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y mae gwaith CAFCASS yn ymwneud â lles plant sy’n gysylltiedig ag achosion llys teulu. Y mae’n hyrwyddo lles plant gerbron llysoedd sy’n ymdrin ag achosion teuluoedd, y mae’n rhoi cyngor i lysoedd ynglyn â cheisiadau a wnaed iddo mewn achosion o’r fath, y mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer plant i gael eu cynrychioli yn y cyfryw achosion ac y mae’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd. Y bwriad wrth ddatganoli’r cyfrifoldebau hyn i Gymru yw dod â buddiannau’r plant hyn o fewn agenda gwasanaethau plant y Cynulliad.
Maethu
Y mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau i gryfhau’r trefniadau presennol ar gyfer hysbysiad maethu preifat i awdurdodau lleol ac fe fydd yn sicrhau bod y sawl sy’n gysylltiedig â threfniadau maethu preifat yn rhoi rhybudd o flaen llaw i awdurdodau lleol ohono. Fe roddir y grym i’r Cynulliad i wneud rheoliadau yn mynnu bod awdurdodau lleol i gadw golwg ar y ffordd y maent yn cyflawni’u swyddogaethau o dan Rhan 9 o Ddeddf Plant 1989 sy’n ymwneud â threfniadau maethu preifat.
Y mae darpariaethau ychwanegol yn caniatáu i’r Cynulliad sefydlu cynllun cofrestru maethu preifat yng Nghymru heb ddeddfwriaeth ychwanegol pe na bae’r trefniadau atgyfnerthedig newydd yn gweithio’n effeithiol.
Fe wneir darpariaethau hefyd fel bod y Cynulliad yn gallu gwneud Gorchymyn yn ymwneud â lefel y taliadau y dylir eu gwneud i rieni maeth.
Gwarchod Plant a Gofal Dydd
Fe wneir amryw o newidiadau yn ymwneud â chofrestru gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd. Y mae’r rhain yn cynnwys:
Ymyrraeth
Fe roddir grymoedd newydd i’r Cynulliad i’w alluogi i ymyrryd ble y mae awdurdodau lleol yn methu â chyflawni’u dyletswyddau o safbwynt eu gwasanaethau cymdeithasol plant. Fe fydd y grym ymyrraeth hwn yn gyffelyb i’r grym ymyrraeth sy’n gysylltiedig â swyddogaethau addysg yr awdurdod, sydd eisoes ym meddiant y Cynulliad drwy Ddeddf Addysg 1996.
Addysg Plant Sy’n Derbyn Gofal
Fe fydd yna ddyletswydd newydd yn cael ei gosod ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal. Y mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddynt ystyried y goblygiadau unrhyw benderfyniad ar gyfer addysg plentyn y maent yn ei wneud ynglyn â lles plentyn.
Canfod Dymuniadau Plant
Fe fydd yna ddyletswydd newydd yn cael ei gosod ar awdurdodau lleol i ganfod dymuniadau plentyn a rhoi ystyriaeth iddynt wrth benderfynu pa wasanaethau y dylent eu darparu i ddiogelu a hyrwyddo lles plentyn anghenus yn eu hardal.
Gwybodaeth am Blant Unigol
Fe wneir gwelliannau i Adran 83 Deddf Plant 1989, sy’n ymwneud â’r wybodaeth y gall y Cynulliad ei chael oddi wrth awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol. Y mae’r gwelliannau’n golygu y gall yr wybodaeth a geir gynnwys manylion sy’n ymwneud ag ac yn enwi plant unigol.
Pwyllgorau’r Gwasanaethau Cymdeithasol
Y mae’r gofyniad sydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i gael pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei ddileu.
Ffioedd sy’n Daladwy i Aelodau Paneli Adolygu Mabwysiadu
Fe wneir gwelliannau i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, fel y gellir talu ffioedd i aelodau Paneli Mabwysiadu, yn hytrach na dim ond treuliau fel yr oedd y sefyllfa yn flaenorol.
Cosbi Rhesymol
Y mae’r amddiffyniad o gosbi rhesymol wedi’i newid fel na ellir mwyach ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd ble y mae ymosodiad ar blentyn yn achosi niwed corfforol gwirioneddol.
Grym i Roi Cymorth Ariannol
Fe roddir grymoedd newydd i’r Cynulliad i roi neu i wneud trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i hyrwyddo lles plant a’u rhieni ac i ddarparu cymorth ar gyfer magu plant.
Gorchmynion Diogelwch Plant
Fe wneir gwelliannau i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, fel pan fo llys, mewn rhai sefyllfaoedd, yn pennu bod plentyn wedi methu â chydymffurfio â gofynion gorchymyn diogelwch plant, fe ellir gwneud gorchymyn magu plant. Pan gaiff gorchymyn diogelwch plant ei dorri, ni fydd gan lys mwyach y grym i wneud gorchymyn gofal ar drothwy is na’r hyn sy’n ofynnol gan Adran 31 Deddf Plant 1989. Y mae’r Ddeddf hefyd yn newid uchafswm hyd gorchymyn diogelwch plant o dri i ddeuddeng mis.
Cyhoeddi Deunydd sy’n Gysylltiedig ag Achos Cyfreithiol
Fe wneir newidiadau i Ddeddf Plant 1989, fel bod cyhoeddi gwybodaeth yn tarddu o achos teulu, sy’n debygol o roi gwybod pwy yw plentyn sy’n gysylltiedig, ond yn cael ei wahardd mewn perthynas â’r cyhoedd. Ni fydd trosglwyddo’r wybodaeth hon i unigolion mewn rhai amgylchiadau neilltuol, fodd bynnag, yn dramgwydd troseddol.
Dadlennu Gwybodaeth gan Gyllid y Wlad
Fe wneir newidiadau i Ddeddf Credyd Treth 2002, fel y gall Cyllid y Wlad rannu gwybodaeth am Gredyd Treth, Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo gyda rhai ymholiadau ac ymchwiliadau ynglyn â lles plentyn. Nid yw’r wybodaeth y gellir ei rhannu yn golygu gwybodaeth am incwm person.