Derbyniodd Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Rhagfyr 2011.
Bydd y Ddeddf hon yn caniatáu i Weinidogion ddiddymu, uno neu drosglwyddo swyddogaethau’r cyrff cyhoeddus a restrir yn atodlenni’r Ddeddf, gan gynnwys Bwrdd Ymgynghorol y Lwfans Byw i’r Anabl, a’r Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodi. Mae’n cynnwys darpariaethau hefyd i Weinidogion Cymru addasu, diddymu neu drosglwyddo swyddogaethau rhai cyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru.
Mae modd gweld a lawrlwytho’r Ddeddf o wefan Deddfwriaeth y DU.