Y mae Is-ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar Gymru yn cael ei phasio gan Weinidogion yn Llywodraeth Cynulliad Cymru a gan Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel ei gilydd. Cyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei gorfodi ym mis Mai 2007, fe wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wneud is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â Chymru.
Fe ellir cael golwg ar yr is-ddeddfwriaeth hon drwy ddefnyddio’r dolenni cyswllt a ganlyn:
Offerynnau Statudol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn mis Mai, 2007.
Offerynnau Statudol y DUY mae rhai o’r Offerynnau Statudol a restrir yma yn berthnasol i holl genhedloedd y DU, rhai i Loegr yn unig a rhai i Gymru a Lloegr. Y mae gan Offerynnau Statudol sy’n berthnasol i Loegr yn unig fel arfer ‘England’ wedi’i ysgrifennu mewn cromfachau yn eu teitlau.