Fe allwch ddefnyddio’r wefan hon i:
Ddod i wybod am yr Wybodaeth Ddiweddaraf am BolisiFe allwch ddod i wybod am y Newyddion, Ymgynghoriadau, Dogfennau, Deddfwriaeth a’r Trafodion diweddaraf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru drwy ddewis yr adran briodol oddi ar y Dudalen Gartref ar Bolisi neu oddi ar y ddewislen ar yr ochr chwith.
Cymeryd golwg ar bolisi sy’n gysylltiedig â Maes Pwnc Penodol Y mae’r wefan yn eich galluogi i hidlo’r wybodaeth am bolisi fel bod ond gwybodaeth yn gysylltiedig â maes pwnc penodol yn cael ei ddangos. I wneud hyn, dewiswch y maes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo oddi ar y rhestr ar y ddewislen ar yr ochr dde a phorwch am yr wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Fe fydd y maes pwnc yn aros wedi’i ddewis tan y newidiwch ef i bwnc arall neu yn ôl at All Subjects / Holl Bynciau. Y mae’r pennawd gwyrdd ar frig y dudalen yn dynodi pa faes pwnc yr ydych wedi’i ddewis.
Cymeryd golwg ar yr Archif o wybodaeth am bolisiY mae’r wefan yn eich galluogi i newid rhwng edrych ar wybodaeth gyfredol ac archif o wybodaeth am bolisi. Fe ddengys yr adran gyfredol wybodaeth am bolisi sydd wedi’i hychwanegu at y wefan yn ystod y chwe mis i flwyddyn diwethaf, tra bo’r archif yn darparu manylion ynglyn â dogfennau ac ymgynghoriadau a gyhoeddwyd ers 2002. I fynd i mewn i’r Archif, cliciwch ar Ewch i mewn i'r Archif yn y ddewislen ar waelod yr ochr chwith ac wedyn dewiswch y flwyddyn y mae gennych ddiddordeb ynddi o’r rhestr tynnu lawr. Fe allwch wedyn bori drwy’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi.. Fe allwch ddewis meysydd pwnc fel a ddisgrifir uchod tra eich bod yn cael golwg ar wybodaeth yn yr archif. Fe fyddwch yn aros yn yr Archif tan y dewiswch Dychwelyd i’r Cyfredol ar waelod y ddewislen ar yr ochr chwith. Y mae’r pennawd gwyrdd ar frig y dudalen yn dynodi pa un ai a ydych yn yr Archif neu yn yr Adran Gyfredol. Defnyddio’r cyfleuster Chwilio Manwl Y mae’r cyfleuster Chwilio Manwl yn eich galluogi i chwilio drwy wefan Polisi Plant yng Nghymru yn ogystal â’r adrannau Confensiwn y CU ac Yn Eich Ardal o wefan Plant yng Nghymru. I chwilio am wybodaeth am bolisi, dewiswch Chwilio Manwl o frig y ddewislen ar yr ochr chwith, ac yna Polisi & Chonfensiwn y CU oddi ar y ddewislen tynnu lawr sydd nesaf at y math o chwiliad. Fe allwch wedyn ddewis edrych ar ddogfennau byw a/neu archif a dewis blwyddyn y cyhoeddiad, maes pwnc a math o ddogfen. Fe ellir hefyd ychwanegu geiriau allweddol at flwch y Bwydwch Derm Chwilio i Mewn, os oes angen.Cymeryd trosolwg ar bolisi mewn meysydd pwnc neilltuol Y mae’r adran Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc yn darparu ystod o ysgrifau sy’n cyflwyno’r prif ddatblygiadau polisi mewn amrywiol feysydd pwnc.Dod i wybod am ddogfennau yn ymwneud â Chyfranogi Y mae’r Adran Cyfranogi yn darparu gwybodaeth am adnoddau a all gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i alluogi plant a phobl ifanc i gymeryd rhan mewn llunio penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Y mae hefyd yn cynnwys adran o’r enw Barn Plant a Phobl Ifanc sy’n darparu manylion adroddiadau sy’n manylu ynglyn â’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl am amrywiaeth o faterion.Dod i wybod am y prosesau deddfwriaethol drwy’r hyn y datblygir polisi Y mae’r adran Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant yn darparu gwybodaeth am sut y mae polisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael ei ddatblygu. Y mae’n cynnwys Llunio Polisi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llunio Polisi yn San Steffan. Y mae hefyd yn amlygu swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru a gwaith Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol.Dod i wybod am ran Plant yng Nghymru o ran dylanwadu ar bolisi Y mae’r adran Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi yn egluro’r gwaith y mae Plant yng Nghymru yn ei wneud i ddylanwadu ar bolisi.Ymaelodi â gwasanaeth e-gyfarwyddiadau polisi Plant yng Nghymru Y mae Plant yng Nghymru yn darparu Gwasanaeth E-gyfarwyddiadau Polisi misol ac y mae manylion ynglyn â hyn ar gael ar y dudalen E-gyfarwyddiadau.
Dod i wybod am y newyddion diweddaraf am bolisi oddi wrth genhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol Y mae Gwefan Polisi Plant yng Nghymru yn cael ei darparu drwy bartneriaeth, Rhwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl, gyda’r mudiadau ambarél cyfatebol dros blant yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Oherwydd y bartneriaeth hon, yr ydym yn gallu darparu gwybodaeth am y newyddion diweddaraf am bolisi yn uniongyrchol oddi ar wefannau’n partneriaid yn y tair cenedl arall. Y mae mwy o wybodaeth am Rwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl ar gael yn yr adran Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl.
Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio gwefan Polisi Plant yng Nghymru neu os oes yna unrhyw sylwadau y dymunwch eu gwneud amdani, a fyddech cystal â chysylltu â: kate.richards@childreninwales.org.uk