Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Polisi
    » Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
    Newyddion Polisi
    Ymgynghoriadau
    Dogfennau
    Deddfwriaeth
    Trafodion
    Cyfranogi
    Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
    Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
    E-gyfarwyddiad
    Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
    Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
    Lloegr, San Steffan a Whitehall
    Gogledd Iwerddon
    Yr Alban

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
Yr ydych yn Edrych ar: Dogfennau Cyfredol
Yn Ymwneud Â: I Gyd
Y mae Gwefan Polisi Plant yng Nghymru yn darparu gwybodaeth am y polisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Fe allwch ddefnyddio’r wefan hon i:

Ddod i wybod am yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi
Fe allwch ddod i wybod am y Newyddion, Ymgynghoriadau, Dogfennau, Deddfwriaeth a’r Trafodion diweddaraf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru drwy ddewis yr adran briodol oddi ar y Dudalen Gartref ar Bolisi neu oddi ar y ddewislen ar yr ochr chwith.

Cymeryd golwg ar bolisi sy’n gysylltiedig â Maes Pwnc Penodol
Y mae’r wefan yn eich galluogi i hidlo’r wybodaeth am bolisi fel bod ond gwybodaeth yn gysylltiedig â maes pwnc penodol yn cael ei ddangos.  I wneud hyn, dewiswch y maes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo oddi ar y rhestr ar y ddewislen ar yr ochr dde a phorwch am yr wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi.  Fe fydd y maes pwnc yn aros wedi’i ddewis tan y newidiwch ef i bwnc arall neu yn ôl at All Subjects / Holl Bynciau.  Y mae’r pennawd gwyrdd ar frig y dudalen yn dynodi pa faes pwnc yr ydych wedi’i ddewis.

Cymeryd golwg ar yr Archif o wybodaeth am bolisi
Y mae’r wefan yn eich galluogi i newid rhwng edrych ar wybodaeth gyfredol ac archif o wybodaeth am bolisi.  Fe ddengys yr adran gyfredol wybodaeth am bolisi sydd wedi’i hychwanegu at y wefan yn ystod y chwe mis i flwyddyn diwethaf, tra bo’r archif yn darparu manylion ynglyn â dogfennau ac ymgynghoriadau a gyhoeddwyd ers 2002. I fynd i mewn i’r Archif, cliciwch ar Ewch i mewn i'r Archif yn y ddewislen ar waelod yr ochr chwith ac wedyn dewiswch y flwyddyn y mae gennych ddiddordeb ynddi o’r rhestr tynnu lawr.  Fe allwch wedyn bori drwy’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi..  Fe allwch ddewis meysydd pwnc fel a ddisgrifir uchod tra eich bod yn cael golwg ar wybodaeth yn yr archif.  Fe fyddwch yn aros yn yr Archif tan y dewiswch Dychwelyd i’r Cyfredol ar waelod y ddewislen ar yr ochr chwith.  Y mae’r pennawd gwyrdd ar frig y dudalen yn dynodi pa un ai a ydych yn yr Archif neu yn yr Adran Gyfredol.   

Defnyddio’r cyfleuster Chwilio Manwl  
Y mae’r cyfleuster Chwilio Manwl yn eich galluogi i chwilio drwy wefan Polisi Plant yng Nghymru yn ogystal â’r adrannau Confensiwn y CU ac Yn Eich Ardal o wefan Plant yng Nghymru.  I chwilio am wybodaeth am bolisi, dewiswch Chwilio Manwl o frig y ddewislen ar yr ochr chwith, ac yna Polisi & Chonfensiwn y CU oddi ar y ddewislen tynnu lawr sydd nesaf at y math o chwiliad.  Fe allwch wedyn ddewis edrych ar ddogfennau byw a/neu archif a dewis blwyddyn y cyhoeddiad, maes pwnc a math o ddogfen.  Fe ellir hefyd ychwanegu geiriau allweddol at flwch y Bwydwch Derm Chwilio i Mewn, os oes angen.

Cymeryd trosolwg ar bolisi mewn meysydd pwnc neilltuol
Y mae’r adran Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc yn darparu ystod o ysgrifau sy’n cyflwyno’r prif ddatblygiadau polisi mewn amrywiol feysydd pwnc.

Dod i wybod am ddogfennau yn ymwneud â Chyfranogi
Y mae’r Adran Cyfranogi yn darparu gwybodaeth am adnoddau a all gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i alluogi plant a phobl ifanc i gymeryd rhan mewn llunio penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.  Y mae hefyd yn cynnwys adran o’r enw Barn Plant a Phobl Ifanc sy’n darparu manylion adroddiadau sy’n manylu ynglyn â’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl am amrywiaeth o faterion.

Dod i wybod am y prosesau deddfwriaethol drwy’r hyn y datblygir polisi
Y mae’r adran Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant yn darparu gwybodaeth am sut y mae polisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael ei ddatblygu.  Y mae’n cynnwys Llunio Polisi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llunio Polisi yn San Steffan.  Y mae hefyd yn amlygu swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru a gwaith Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol.

Dod i wybod am ran Plant yng Nghymru o ran dylanwadu ar bolisi
Y mae’r adran Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi yn egluro’r gwaith y mae Plant yng Nghymru yn ei wneud i ddylanwadu ar bolisi.

Ymaelodi â gwasanaeth e-gyfarwyddiadau polisi Plant yng Nghymru
Y mae Plant yng Nghymru yn darparu Gwasanaeth E-gyfarwyddiadau Polisi misol ac y mae manylion ynglyn â hyn ar gael ar y dudalen E-gyfarwyddiadau. 

Dod i wybod am y newyddion diweddaraf am bolisi oddi wrth genhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol
Y mae Gwefan Polisi Plant yng Nghymru yn cael ei darparu drwy bartneriaeth, Rhwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl, gyda’r mudiadau ambarél cyfatebol dros blant yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.  Oherwydd y bartneriaeth hon, yr ydym yn gallu darparu gwybodaeth am y newyddion diweddaraf am bolisi yn uniongyrchol oddi ar wefannau’n partneriaid yn y tair cenedl arall.  Y mae mwy o wybodaeth am Rwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl ar gael yn yr adran Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl. 

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio gwefan Polisi Plant yng Nghymru neu os oes yna unrhyw sylwadau y dymunwch eu gwneud amdani, a fyddech cystal â chysylltu â: kate.richards@childreninwales.org.uk

Dewiswch Faes Pwnc:
Pob Pwnc
Addysg
Anabledd
Atal Damweiniau Plant
Blynyddoedd Cynnar
Bwlio
Cydraddoldebau
Cyffredinol
Cyfranogi
Datblygu Cymunedol
Defnyddio Sylweddau
Diogelu Plant
Gofal Cymdeithasol Cyffredinol
Gofal plant
Gofalwyr Ieuainc
Hamdden a Chwarae
Hawliau Plant
Iechyd
Ieuenctid
Mabwysiadu
Mewnfudo
Plant Sy’n Derbyn Gofal
Teuluoedd a Magu Plant
Tlodi
Trosedd a Chyfiawnder
Y Cyfryngau
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313